Greg Dyke, Cadeirydd yr FA
Dyw penderfynu a ddylai’r treisiwr Ched Evans chwarae eto i glwb pêl-droed proffesiynol ddim yn “gwestiwn clir”, yn ôl pennaeth Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.
Fe gafodd Greg Dyke ei holi’n uniongyrchol am hynny ar ôl i nifer o noddwyr amlwg, gan gynnwys yr athletwraig Jessica Ennis-Hill, ddweud y byddan nhw’n rhoi’r gorau i gefnogi clwb Sheffield United os bydd Evans yn chwarae iddyn nhw eto.
Yn y diwedd, fe wrthododd ddweud un ffordd na’r llall a ddylai’r chwaraewr 25 oed gael chwarae’n broffesiynol eto.
‘Cwestiwn uniongyrchol’
Roedd yna gwestiwn uniongyrchol i’w ateb, meddai Cadeirydd yr FA, ar y rhaglen deledu Newsnight.
“A oes gan bobol sy’n mynd i’r carchar yr hawl i ddod allan o’r carchar i geisio ailadeiladu eu bywydau neu beidio?
“Neu a yw’r hyn y maen nhw wedi ei wneud mor ddrwg, ac am eu bod nhw mewn diwydiant lle mae delwedd yn bwysig – dyna’r ddilema a dydy e ddim yn glir.”
Roedd Greg Dyke wedi ei wahodd ar y rhaglen i drafod adroddiad FIFA am Gwpan y Byd ac fe ddywedodd i ddechrau nad oedd am ateb cwestiynau am Ched Evans.
Cefndir
Fe gafodd blaenwr rhyngwladol Cymru ei garcharu am bum mlynedd ym mis Ebrill 2012 am dreisio merch ifanc yn Y Rhyl.
Mae’r chwaraewr wedi dal i wadu’r drosedd ac mae wedi cael ailddechrau ymarfer gyda’i gyn-glwb Sheffield United – ond does dim penderfyniad eto a fydd yn chwarae iddyn nhw.
Petai hynny’n digwydd, fe fyddai’r athletwraig Jessica Ennis-Hill eisiau i’w henw gael ei dynnu oddi ar un o’r stands yn stadiwm y clwb yn Bramall Lane.