Mae hi’n ddechrau ar ymgyrch ragbrofol newydd i dîm pêl-droed Cymru unwaith eto, gyda Gareth Bale a’r gweddill yn gobeithio y byddwn nhw’n hedfan allan i Ffrainc ar gyfer Ewro 2016 mewn dwy flynedd.

Mae’r cyfan yn dechrau gyda thrip i Andorra nos Fawrth nesaf, ac mae Chris Coleman wedi gallu enwi carfan gryf sy’n cynnwys y rhan fwyaf o’i brif sêr.

Owain Schiavone, Iolo Cheung a Rhys Jones sydd yn ôl ar gyfer pod pêl-droed cyntaf y tymor newydd felly, wrth iddyn nhw drafod yr helynt o gwmpas y cae artiffisial a phwy hoffen nhw weld yn y tîm, yn enwedig yn safle’r cefnwr chwith a’r ymosod.

Mae’r gwahaniaeth barn rhwng Joe Allen a Jonathan Williams am y cae 3G, a sylwadau Joniesta fod buddugoliaeth o 1-0 yn ddigon, hefyd yn cael sylw.

Fe symudodd dau o garfan Cymru, Emyr Huws a Tom Lawrence, i glybiau newydd ar ddiwedd y ffenestr drosglwyddo ddiweddar, ac mae’r tri hefyd yn ystyried a oedd rheiny’n benderfyniadau doeth ar gyfer eu gyrfaoedd.