Jonathan Williams
Mae Jonathan Williams wedi mynnu y byddai’n fodlon gweld Cymru’n dychwelyd o Andorra’r wythnos nesaf gyda buddugoliaeth agos os yw’n golygu dechrau’r ymgyrch â thri phwynt.
Fe fydd y tîm yn herio’r wlad fechan, sydd rhwng Ffrainc a Sbaen a sydd â phoblogaeth o lai na 100,000, nos Fawrth yn eu gêm ragbrofol cyntaf ar gyfer Ewro 2016.
Mae disgwyl i Gymru ennill yn gyfforddus, gan fod Andorra wedi colli’u 44 gêm gystadleuol ddiwethaf a heb lwyddo i sgorio’r un gôl yn eu hymgyrch ragbrofol ddiwethaf chwaith.
Er nad yw’r ddwy wlad wedi chwarae’i gilydd ar y lefel ryngwladol hŷn o’r blaen, mae’r ffaith fod Cymru’n 41fed yn netholiadau’r byd o’i gymharu ag Andorra sy’n 199ain hefyd yn awgrymu y bydd hi’n gêm unochrog.
Ond o gofio fod Cymru wedi dechrau’u hymgyrchoedd yn araf yn y gorffennol – maen nhw wedi colli’r ddwy gyntaf yn eu dwy ymgyrch ragbrofol ddiwethaf – dyw Jonathan Williams ddim yn poeni sut gawn nhw’r fuddugoliaeth y tro hwn.
“Mae’n anarferol i Gymru achos dydyn ni ddim fel arfer yn dechrau fel ffefrynnau,” cyfaddefodd Joniesta, fel mae’n cael ei alw gan gefnogwyr.
“Mae pawb yn disgwyl i ni ennill yn erbyn Andorra, gyda phobl fel Bale a Ramsey’n ffit, ond mae’n rhaid i ni jyst ddod nôl i Gymru gyda’r tri phwynt.
“Hyd yn oed os yw’n 1-0, fe fyswn i’n cymryd hynny.”
Mwy o fechgyn ifanc
Dim ond ugain oed yw Jonathan Williams, a hynny weithiau’n hawdd anghofio o feddwl nôl i’w gap gyntaf dros Gymru yng Nglasgow deunaw mis yn ôl, pan ddaeth ymlaen am Bale ar yr egwyl a rhedeg y sioe yn erbyn yr Albanwyr.
Mae’r chwaraewr canol cae felly’n gymharol brofiadol o’i gymharu â rhai o’r ymosodwyr ifanc eraill sydd wedi’u cynnwys yn y garfan ar gyfer gêm Andorra, gan gynnwys Tom Lawrence, George Williams a Jake Taylor.
Ac er ei bod hi’n bosib y byddwn nhw’n cystadlu gyda’i gilydd i ddechrau ar yr asgell i Gymru nos Fawrth, fe ddywedodd Williams wrth golwg360 ei bod hi’n braf eu cael o gwmpas.
“Maen nhw’n chwaraewyr gwych, mae gennym ni ddyfnder y garfan nawr,” meddai Jonathan Williams.
“Dwi’n meddwl y byddwn nhw’n bwysig yn yr ymgyrch nesaf oherwydd fe fydd yna anafiadau.
“Mae’n neis cael mwy o fois ifanc o gwmpas hefyd, gydag Emyr [Huws] hefyd, felly mae gennym ni chwaraewyr ifanc da.”
Mae’r mynd a dod wedi parhau yng nghlwb Williams, Crystal Palace, dros yr wythnosau diwethaf, gyda Neil Warnock bellach wedi cymryd lle’r Cymro Tony Pulis fel rheolwr.
Ac er bod Williams yn mwynhau ymuno â’r garfan ryngwladol beth bynnag, mae’n cyfaddef ei fod yn gobeithio y gall ei berfformiadau gyda Chymru ddenu sylw’i reolwr clwb newydd.
“Dwi wrth fy modd yn mynd ffwrdd gyda Chymru,” meddai Joniesta. “A gobeithio ga’i gyfle i berfformio ar lwyfan mawr gyda chwaraewyr gwych.”