Danny Gabbidon
Mae amddiffynnwr canol Caerdydd, Danny Gabbidon wedi’i alw i garfan Cymru i herio Andorra, a hynny yn lle Sam Ricketts.
Cafodd Ricketts ei anafu wrth ymarfer ddydd Mawrth – y pedwerydd chwaraewr i dynnu nôl hyd yn hyn.
Roedd yr amddiffynwyr Adam Matthews a James Collins a’r ymosodwr Hal Robson-Kanu eisoes wedi tynnu nôl o’r garfan, wrth i Declan John, Paul Dummett a Jake Taylor gael eu henwi yn eu lle.
Mae Gabbidon, sy’n 35 oed, newydd ail-ymuno â Chaerdydd yn y Bencampwriaeth, a hynny fel chwaraewr-hyfforddwr.
Carfan Cymru:
Wayne Hennessey (Crystal Palace), Kyle Letheren (Dundee), Owain Fôn Williams (Tranmere)
James Chester (Hull), Paul Dummett (Newcastle), Ben Davies (Tottenham), Chris Gunter (Reading), Declan John (Caerdydd), Danny Gabbidon (Caerdydd), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe)
Joe Allen (Lerpwl), Emyr Huws (Wigan), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Nottingham Forest)
Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton), Tom Lawrence (Caerlŷr), Jake Taylor (Reading), George Williams (Fulham), Jonathan Williams (Crystal Palace)