Gorffennodd yr ornest rhwng Morgannwg a Swydd Gaint yng Nghaergaint yn gyfartal ar y pedwerydd diwrnod heddiw.
Penderfynodd Morgannwg gau eu batiad gyda’r cyfanswm yn 415-9, wedi i Graham Wagg daro 116* – ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn gemau dosbarth cyntaf.
Doedd dim amser i Swydd Gaint ymateb wrth i’r ornest ddirwyn i ben.
Sgoriodd Chris Cooke 171 – ei gyfanswm unigol gorau erioed – yn y batiad cyntaf wrth i Forgannwg gyrraedd 329 i gyd allan wedi iddyn nhw alw’n gywir a phenderfynu batio’n gyntaf.
Cipiodd Mitchell Claydon bedair wiced am 47 i’r Saeson.
Wrth ymateb, sgoriodd Swydd Gaint 387 yn eu batiad nhw, wrth i Sam Northeast daro 102, wedi’i gefnogi gan Sam Billings (77) a Daniel Bell-Drummond (71).
Ar ei ymddangosiad cyntaf i Forgannwg, cipiodd y bowliwr ifanc Kieran Bull bedair wiced am 62.
Yn yr ail fatiad, penderfynodd Morgannwg anelu am ornest gyfartal ar y pedwerydd diwrnod, wrth i Wagg daro 116* yn ystod y sesiwn olaf, wedi i Gareth Rees agor y batio gydag 81.
Unwaith eto, Claydon oedd y bowliwr gorau i Swydd Gaint, gan gipio tair wiced am 36.