Joe Allen yn siarad heddiw
Mae chwaraewr canol cae Cymru Joe Allen wedi cyfaddef y byddai’n well ganddo chwarae ar gae glaswellt, wrth i Gymru baratoi i deithio i Andorra’r wythnos nesaf.
Cafwyd cadarnhad heddiw gan FIFA fod cae stadiwm genedlaethol Andorra o safon digon uchel i gynnal y gêm, ar ôl wythnos o ansicrwydd.
Mae’r arwyneb newydd gael ei ailosod, gyda chae artiffisial 3G yn cymryd lle’r glaswellt oedd yno gynt.
Ond fe gyfaddefodd Allen heddiw y byddai’n teimlo’n fwy cyfforddus yn chwarae ar gae glaswellt.
“Dyna beth rydym ni’n chwarae ar bob wythnos, felly mae’n amlwg mai dyna beth sydd well gennym ni,” meddai chwaraewr canol cae Lerpwl.
“Ond rydym ni i gyd wedi chwarae ar gae artiffisial digon o weithiau i wybod beth i’w ddisgwyl.
“Dyw e ddim yn rhywbeth rydym ni wedi trafod llawer ymysg ein gilydd.
“Beth bynnag yw’r arwyneb, mae’n rhaid i’n ffocws ni fod ar sut rydym ni’n chwarae a sut rydym ni’n perfformio – rydym ni’n mynd yno i gael triphwynt.”
Fe fydd Cymru’n herio’r tîm gwanaf yn y grŵp ar 9 Medi, cyn gemau yn erbyn Bosnia-Herzegovina, Cyprus, Gwlad Belg ac Israel i ddod yn nes ymlaen yn yr ymgyrch.
Joniesta’n anghytuno
Mae chwaraewr canol cae Crystal Palace Jonathan Williams yn un o garfan Cymru sydd wedi chwarae yn Andorra yn y gorffennol.
Ac yn wahanol i Allen, fe awgrymodd Williams y gallai’r cae newydd fod o fantais i chwaraewyr Cymru fydd yn ceisio rheoli’r meddiant a phasio’r bêl.
“Dwi wedi chwarae ar gae Andorra o’r blaen gyda’r tîm dan-21 a doedd e ddim yn wych, felly falle wnaiff y cae 3G weithio o’n plaid ni,” meddai Jonathan Williams.
“Roedd [yr hen gae] yn fwy o fwd na glaswellt!”
‘Dim gêm hawdd’
Gyda’r ddau dîm uchaf yn y grŵp yn cyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc mewn dwy flynedd, yn ogystal â lle yn y gemau ail gyfle i’r tîm sy’n drydydd, mae’r disgwyliadau’n naturiol wedi codi.
Ond er bod Cymru’n herio detholiadau isaf y grŵp nos Fawrth nesaf, doedd Allen ddim yn awyddus i awgrymu y dylai Cymru ddisgwyl buddugoliaeth gyfforddus.
“Does dim gemau hawdd ar y lefel yma,” meddai Allen, oedd yn gapten ar Gymru yn eu gêm gyfeillgar ddiwethaf yn yr Iseldiroedd.
“Mae gêm gyntaf unrhyw ymgyrch yn un sy’n rhaid ei hennill.
“Mae’n dwrnament anferth [y gemau rhagbrofol] – y tro diwethaf roedden ni wedi’n siomi gyda sut wnaethon ni berfformio, roedd y paratoadau’n berffaith ond fe wnaethon ni adael ein hunain lawr gyda sut chwaraeon ni.
“Rydym wedi symud ’mlaen tipyn ers hynny, ac allwn ni ddim aros i ddechrau’r ymgyrch yma.”