Stadiwm Cenedlaethol Andorra yn 2007
Mae Andorra wedi cael caniatâd o’r diwedd gan FIFA i gynnal eu gêm ragbrofol yn erbyn Cymru ar eu cae artiffisial newydd yr wythnos nesaf.
Fe fydd Cymru’n teithio i’r wlad fechan rhwng Ffrainc a Sbaen ar 9 Medi ar gyfer eu gêm ragbrofol gyntaf yn Ewro 2016.
Codwyd amheuon yr wythnos diwethaf a fyddai’r gêm yn cael ei chwarae yn Andorra ar ôl i FIFA godi cwestiynau ynglŷn â safon y cae.
Ond fe fydd y newyddion yn rhyddhad i dros fil o gefnogwyr Cymru sydd yn bwriadu teithio i’r gêm, sydd wedi bod yn anhapus tu hwnt fod FIFA wedi camu mewn mor hwyr i godi’r ansicrwydd ynglŷn â’r lleoliad.
Gwaith adnewyddu
Mae Andorra wedi bod yn gwneud gwaith adnewyddu i’w stadiwm yn ddiweddar, gan gynnwys cynyddu’r nifer o seddi i 4,500 a gosod cae artiffisial 3G newydd yno.
Ond ar ôl archwilio’r cae newydd yr wythnos diwethaf fe fynnodd FIFA fod angen iddyn nhw wneud gwelliannau i’r arwyneb dros y penwythnos, neu ni fyddai’r gêm yn cael ei chynnal yno.
Byddai hynny wedi golygu symud yr ornest ar fyr rybudd, mwy na thebyg i rywle yng nghyffiniau Barcelona yn Sbaen sydd rhyw ddwy awr a hanner i ffwrdd o Andorra.
Fe allai hynny fod wedi peri trafferthion mawr i gefnogwyr Cymru oedd wedi trefnu i aros yn Andorra neu Toulouse, dinas yn Ffrainc sydd hefyd ychydig oriau i ffwrdd, yn ogystal â’r rheiny oedd wedi trefnu bysus i’w cludo o Barcelona.
“Rhyddhad mawr”
Wrth ymateb i’r newyddion y prynhawn yma, dywedodd pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru Ian Gwyn Hughes fod pawb yn falch fod y mater wedi’i sortio o’r diwedd.
“Mae’n rhyddhad mawr – rydan ni wedi bod yn disgwyl ers dydd Gwener,” cyfaddefodd Ian Gwyn Hughes.
“Ond roedd y tîm wedi paratoi beth bynnag yn feddyliol ar gyfer chwarae ar y 3G, ond dwi’n credu fod o’n rhyddhad mwy na dim i’r cefnogwyr – mae’n golygu nad ydyn nhw’n gorfod newid eu trefniadau.”