Mae Jamie Donaldson a thîm Ewrop fydd yn cystadlu am Gwpan Ryder y mis yma bellach yn gwybod pwy yw’r deuddeg o’r Unol Daleithiau y byddan nhw’n eu herio yn Yr Alban.

Dros nos, cafodd Keegan Bradley, Hunter Mahan a Webb Simpson eu hychwanegu at y tîm gan y capten Tom Watson.

Maen nhw’n ymuno â’r naw oedd wedi cymhwyso’n awtomatig ar gyfer y tîm – Bubba Watson, Rickie Fowler, Jim Furyk, Jimmy Walker, Phil Mickelson, Matt Kuchar, Jordan Spieth, Patrick Reed a Zach Johnson.

Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod yn unig wedi i gapten tîm Ewrop, Paul McGinley ddewis Stephen Gallacher a’r ddau chwaraewr profiadol, Lee Westwood ac Ian Poulter.

Maen nhw’n ymuno â’r Cymro Jamie Donaldson, Rory McIlroy (Gogledd Iwerddon), Henrik Stenson (Sweden), Victor Dubuisson (Ffrainc), Sergio Garcia (Sbaen), Justin Rose (Lloegr), Martin Kaymer (Yr Almaen), Thomas Bjorn (Denmarc) a Graeme McDowell (Gogledd Iwerddon).

Sicrhaodd Jamie Donaldson, sy’n 38 oed, ei le yn y tîm drwy ennill y gystadleuaeth olaf ond un sy’n cyfrif tuag at gymhwyso, sef Cystadleuaeth Meistri Gweriniaeth Tsiec.

Hon oedd ei drydedd fuddugoliaeth yn ystod Taith Ewrop eleni.

Bydd Cwpan Ryder yn cael ei chynnal ar gwrs Gleneagles rhwng Medi 26-28.