Warren Gatland a enillodd wobr Hyfforddwr y Flwyddyn y llynedd
Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru 2014 wedi cael ei lansio heddiw fydd yn gweld BBC Cymru a Chwaraeon Cymru yn dechrau’r chwilio am sêr disgleiriaf y byd chwaraeon yng Nghymru yn ystod 2014.
Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Cymru am y tro cyntaf y llynedd, ac mae’r gwobrau yn ddathliad o’r gorau ym meysydd chwaraeon proffesiynol ac ar lawr gwlad.
Bydd y gwobrau yn cael eu cynnal ar Ragfyr 8 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd ac ymhlith y gwobrau a fydd yn cael eu rhannu fydd Hyfforddwr y Flwyddyn a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.
Y llynedd, enillodd Warren Gatland wobr Hyfforddwr y Flwyddyn ac enillodd Leigh Halfpenny bleidlais y cyhoedd i gipio gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.
Mae’r cyhoedd hefyd yn cael y cyfle i enwebu pobl ar gyfer y gwobrau ar lawr gwlad. Bydd yr enwebiadau’n agor ddydd Mawrth, Medi 2 ac yn cau ddydd Gwener, Medi 26.
Mae modd enwebu pobl deilwng ar gyfer gwobrau Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn, Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn, Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn, Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn, Gwobr Cyflawniad Oes (Cymunedol).
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies: “Mae wedi bod yn flwyddyn arall o gyflawniadau mawr yn y byd chwaraeon yng Nghymru. Mae ein hathletwyr – yn ddynion a merched – wedi gosod y safon gartref a thramor – gan ddod i benllanw yng Ngemau’r Gymanwlad oedd yn hynod gyffrous a llwyddiannus.
“Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn gyfle perffaith i ni i gyd edrych yn ôl ar ddeuddeg mis arbennig iawn – a thalu teyrnged i’r rhai sydd wedi gadael eu marc.”
Ychwanegodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru: “O gofio am y llwyddiant ar y llwyfan elite eleni – a llwyddiant Tîm Cymru yn sicr yng Ngemau’r Gymanwlad – mae’n hanfodol ein bod ni’n dal ati i ddatblygu’r gweithlu chwaraeon yng Nghymru.
“Y llynedd roedd yr enwebiadau yn eang ac amrywiol iawn, a phawb yn haeddu cydnabyddiaeth mewn rhyw ffordd. Rydw i’n edrych ymlaen at glywed rhagor o straeon ysbrydoledig fel aelod o’r panel yma eleni.”
Mae rhagor o fanylion am y categorïau, a sut mae enwebu a phleidleisio, ar gael ar www.walessportawards.co.uk