Dylan Ebenezer
Mae’n arwydd pendant fod y byd darlledu chwaraeon wedi newid, wrth i gyflwynydd sioe chwaraeon newydd S4C baratoi i gymryd yr awenau gydag iPad yn ei law.

Dylan Ebenezer, y cyflwynydd cyfarwydd o raglen Sgorio, fydd yn arwain rhaglen newydd Y Clwb fydd ar y teledu am y tro cyntaf ar brynhawn Sul 7 Medi.

Yn ogystal â dangos gêm rygbi Pro12 a gêm bêl-droed Uwch Gynghrair Cymru’n fyw bob wythnos, fe fydd y rhaglen chwe awr yn dangos rhywfaint o gampau eraill hefyd o driathlon i feicio mynydd, rasio ceir a mwy.

Ar y penwythnos cyntaf fe fydd Sgorio yn dangos gêm Uwch Gynghrair Cymru rhwng Y Rhyl ac Aberystwyth yn fyw o Stadiwm Corbett Sports am 12.45yp, cyn i’r Clwb Rygbi ddarlledu’r ornest Pro 12 rhwng Zebre a’r Gleision o’r Eidal am 15.45yp.

Arlwy eang

Bydd Dylan Ebenezer yn llywio rhaglen Y Clwb, fydd yn ymbarél i’r gemau byw hynny, o’r stiwdio yng Nghaernarfon.

Ac ar drothwy’r gyfres newydd, mae’n mynnu y bydd rhywbeth at ddant pawb o ran chwaraeon yn arlwy Y Clwb.
“Bydd y gyfres yn orlawn o chwaraeon,” esboniodd y brodor o Aberystwyth, sydd yn fab i’r darlledwr Lyn Ebenezer.

“Pêl droed a rygbi fydd y prif gampau, ond byddwn ni’n rhoi sylw i gampau eraill hefyd fel seiclo, triathalon, beicio mynydd a llawer o gampau eraill llai adnabyddus.

“Mae’n anhygoel faint o chwaraeon sydd allan ’na a bod yn onest, a gymaint o bobl dalentog, mae’n amser cyffrous o fewn y byd chwaraeon, yn enwedig yng Nghymru.”

Y diweddaraf o’r Prem

Ac fe fydd mwy na dim ond dangos gemau byw ar y rhaglen, meddai, gyda gwesteion arbennig a sylw i ganlyniadau mawr y chwaraeon eraill y tu hwnt i Gymru, gan gynnwys Uwch Gynghrair Lloegr.

“Mi fyddwn ni’n ‘siop un stop’ ar gyfer chwaraeon ar ddyddiau Sul,” meddai’r cyflwynydd.

“Fydda’i fel Des Lynam, gydag iPad yn lle mwstas!

“Byddwn ni’n dod a’r diweddaraf i chi o ran sgôr a chanlyniadau ac yn amlwg os bydd unrhyw newyddion mawr yn torri yn y byd chwaraeon byddwn ni’n rhoi sylw iddo’n syth.

“Bydd gwestai ar y soffa bob wythnos hefyd, felly gallwch glywed beth yw hoff gamp neu pwy yw hoff dîm eich hoff seleb!”

Bydd Y Clwb yn dechrau ddydd Sul 7 Medi am 12.30yp ar S4C.