Lora Thomas
Lora Thomas sydd yn llawn clod am ffilm Wes Anderson …

Ralph Fiennes, F Murray Abraham, Mathieu Amalric, Adrien Brody, Willem Dafoe, Jeff Goldblum, Harvey Keitel, Jude Law, Bill Murray, Edward Norton, Jason Schwartzman, Saoirse Ronan, Tilda Swinton, Owen Wilson a Léa Seydoux.

Mae’r cymeriadau yma yn boblogaidd mewn ffilmiau wedi’u cyfarwyddo gan Wes Anderson, ac felly does dim llawer o syndod eu bod yn ymddangos yn y ffilm The Grand Budapest Hotel. A gyda chast fel hyn, mae’n sicr o fod yn ffilm dda!

Crefft y cyfarwyddwr

Mae ffilmiau Anderson yn od, swynol, rhyfeddol ac artistig, sydd yn denu cynulleidfa sydd yn hoff o gomedi a ffilmiau indie.

Yn The Grand Budapest Hotel mae bob saethiad a’r manylion bach ar y set yn berffaith ac yn ei le, gyda phob symudiad yn benodol ac wedi ei amseru yn berffaith.

Mae pob saethiad wedi ei fframio gan iddo ddefnyddio saethiadau neu ‘takes’ hir yn hytrach, i gyd wedi ei drefnu yn ofalus, sydd yn fy atgoffa i o’r theatr.

Mae Anderson wedi rhoi ystyriaeth a sylw i bopeth. Ac felly mae’r ‘production design’ ar cinematography yn sefyll allan yn y ffilm, fel bob ffilm dwi wedi’i weld gan Anderson.

Stori o stori o stori …

Mae’n ffilm adfywiol iawn, o’r cymeriadau gyda hiwmor tywyll a deialog cyflym a doniol, i’r plot anrhagweladwy.

Mae stori The Grand Budapest Hotel yn datblygu fel stori o stori o stori. Ac mae’r haenau yma yn datblygu dros swper hir yn y 60au rhwng Jude Law a F Murray Abraham ym mwyty’r gwesty.

Mae cyn ‘lobby boy’ y Grand Budapest Hotel, Zero Moustafa (F Murray) yn adrodd stori i awdur (Jude Law) sydd yn westai yn y gwesty. Stori o’r gwesty, y gwesteion, a’i antur gyda’r ‘concierge’ rhagorol, Monsieur Gustav, sydd yn dechrau yn 1932 pan mae’r gwesty yn ei ogoniant.

Mae’n adrodd yr hanes pan oedd y ddau, Moustafa a Gustave, yn gweithio gyda’i gilydd er mwy profi fod Gustave yn ddieuog wedi iddo gael ei fframio am lofruddio “Madame D” (Tilda Swinton).

Mae’r ffilm yn sôn am deyrngarwch, dyletswydd, trachwant, hurtrwydd a chariad tuag at ferched mewn unrhyw oed.

Dim rhagflas

I’r rheiny ohonoch sydd heb ei weld dwi ddim eisiau rhoi gormod o’r stori i chi, gan mai un o brif broblemau llawer o ffilmiau ydi bod y stori yn rhagweladwy, ac felly mae’n cymryd rhywfaint o’r mwynhad allan o wylio’r ffilm.

Ond wedyn mae ffilmiau fel The Grand Budapest Hotel yn cadw fy sylw ar y sgrin ac yn gwneud i mi eisiau gwybod mwy.

Fel arfer byddaf yn gwylio clipiau o’r ffilm y byddaf yn bwriadu ei wylio ar y we er mwyn cael blas o beth sydd gan y ffilm i gynnig.

Ond wedi i mi ddarllen rhestr y cast a sylwi bod y ffilm gan Wes Anderson, penderfynais beidio, gan i mi felly beidio gwybod fawr ddim am y ffilm cyn ei wylio. Ac efallai oherwydd hyn roeddwn wedi mwynhau dirgelwch, hud a harddwch y ffilm hyd yn oed yn fwy!

Dau air sydd yn dod i fy meddwl wrth geisio disgrifio’r ffilm yw ‘weird and wonderful’.

Os wnaethoch fwynhau The Moonrise Kingdom, hefyd gan Anderson, yna byddwch wrth eich bodd gyda’i ffilm ddiweddaraf gan Anderson, The Grand Budapest Hotel.

Marc: 9/10