Gwyl Golwg
Cyn i Ŵyl Golwg ddychwelyd i Lanbedr Pont Steffan eleni, mae cyfle i ddarllenwyr Golwg a golwg360 bleidleisio am y llun sydd wedi creu’r argraff fwyaf arnyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae 11 llun i ddewis ohonyn nhw, gyda rhai o brif ffotograffwyr Cymru wedi dal digwyddiad hanesyddol, portread arwyddocaol neu olygfa drawiadol trwy lens y camera.
Mae’r lluniau wedi eu dethol o gyfrolau Golwg rhwng 5 Medi 2013 – 28 Awst 2014 ac yn dilyn poblogrwydd y bleidlais ‘Llun Eiconig Chwarter Canrif Golwg’ gafodd ei gynnal yn yr ŵyl y llynedd.
Bydd y llun buddugol yn cael ei wobrwyo ar ddydd Sul Gŵyl Golwg, a’r cyfle olaf i bleidleisio fydd dydd Sul 14 Medi, cyn 4 o’r gloch.
Mae cyfle i ddewis o’r lluniau a bwrw pleidlais ar wefan Gŵyl Golwg yma: