Mae staff yn y BBC wedi pleidleisio o blaid mynd ar streic dros golli swyddi, dywedodd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ).
Fis Gorffennaf, cyhoeddodd y gorfforaeth y byddai mwy na 400 o swyddi yn cael eu colli yn y BBC wrth i’r Gorfforaeth geisio arbed miliynau o bunnoedd yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Yn y bleidlais, fe wnaeth 86.9% o aelodau’r NUJ bleidleisio dros weithredu heb streicio, ac fe wnaeth 73.6% o aelodau bleidleisio dros weithredu, gan gynnwys mynd ar streic.
Dywedodd Michelle Stanistreet, ysgrifennydd cyffredinol yr NUJ: “Mae aelodau’r NUJ yn gweld hyn fel brwydr am gorff ac enaid y BBC.
“Mae ein haelodau yn gwybod bod y toriadau hyn yn cael eu targedu yn y cyfeiriad anghywir – yn hytrach na rhoi trefn ar ormodedd rheolaethol a gwastraff, newyddiaduraeth ar lawr gwlad a rhaglenni sy’n wynebu’r fwyell.
“Gall yr anghydfod hwn gael ei ddatrys yn hawdd petai’r BBC eisiau hynny, a dyna pam yr ydym yn ceisio ymyriad y cyfarwyddwr cyffredinol.
“Os na allwn ddod i setliad synhwyrol bydd aelodau’r NUJ yn barod i fynd ar streic yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf er mwyn dod â’u hymgyrch i sylw’r cyhoedd ehangach, sy’n rhannu dymuniad ein haelodau am ddarlledwr cyhoeddus sy’n gwasanaethu buddiannau’r rhai sy’n talu’r ffi drwydded, nid y swyddogion gweithredol.”