Y dorf yn mwynhau set Gruff Rhys nos Wener
Ciron Gruffydd sy’n bwrw golwg nol dros uchafbwyntiau’r penwythnos…
Ar dir Clwb Rygbi Nant Conwy yng nghesail Coedwig Gwydir yn Nyffryn Conwy, cafodd chweched Ŵyl Gwydir ei chynnal dros y penwythnos.
Mae trefnwyr yr ŵyl i’w canmol oherwydd ei bod hi’n gyfan gwbl annibynnol heb arian cyhoeddus yn agos ati. Oherwydd hynny, mae’r criw o wirfoddolwyr sy’n ymwneud a hi yn gallu llwyfannu’r bandiau maen nhw’n hoffi yn hytrach na chael eu caethiwo gan fiwrocratiaeth.
Ar y nos Wener, yn dilyn perfformiadau gan Y Cledrau, Yr Eira, Memory Clinic, Cowbois Rhos Botwnnog a Trwbador, y prif atyniad oedd set gan Gruff Rhys.
Mae Gruff wedi bod yn teithio sioe un dyn yn ddiweddar sy’n adrodd hanes John Evans – anturiaethwr o Gymru wnaeth deithio i America yn y deunawfed ganrif i chwilio am lwyth o Americanwyr brodorol oedd yn ddisgynyddion i’r Tywysog Madog.
Braf iawn felly oedd ei weld gyda band llawn unwaith yn rhagor – er y byddai’n well gan y gynulleidfa, ar y cyfan, glywed rhagor o ganu yn hytrach na chael darlith hanesyddol rhwng pob cân.
Ond yr uchafbwynt, heb os, oedd gweld Kliph Scurlock, cyn ddrymiwr un o fandiau mwya’r byd, The Flaming Lips, yn chwarae gyda Gruff… yn Llanrwst, o bob man.
Yn dilyn set Gruff Rhys, roedd Saron yn chwarae tu mewn i’r Clwb Rygbi, ac er bod beirniadaeth wedi bod am ei setiau nhw yng Ngŵyl Gardd Goll a’r Eisteddfod, roedden nhw’n dda iawn yma gyda’u pastiche o fandiau pop Cymru’r 70au.
Cyfareddu’r gynulleidfa
Ar y dydd Sadwrn roedd y cyfan yn dechrau gyda set gan Ysgol Sul cyn i Plu, Chris Jones a Seazoo o brosiect Gorwelion BBC Cymru ddod i’r llwyfan.
Yna, wedi i Siddi ganu, cafwyd set llawn awyrgylch gan Carw, pop ysgafn gan Palenco, a chydig o roc gan Y Reu.
Sen Segur oedd nesa gyda’u sain seicadelig cyn i HMS Morris ddod i’r llwyfan ac yna Keys.
Wedi i Sŵnami a Gwenno ganu daeth uchafbwynt y diwrnod wrth i Houdini Dax wneud i bawb fynd yn wyllt. Roedd canwr y band yn dda iawn am gysylltu gyda’r dorf ac er bod Keys wedi bod yn wych yn gynharach, does ganddyn nhw ddim aelod o’r band gyda’r un swyn sy’n gallu cyfareddu’r gynulleidfa fel Houdini Dax.
Roedd hynny wedyn yn arwain y ffordd yn wych i Candelas a daeth y cyfan i ben gyda pherfformiad hynod arall gan R Seiliog.
‘Anodd denu’r torfeydd’
Fodd bynnag, dros yr haf, mae un cwestiwn mawr wedi dod i’r amlwg wrth i mi fynd o ŵyl i ŵyl. Oes diffyg bandiau yng Nghymru i gynnal yr holl wyliau sy’n cael eu cynnal erbyn hyn?
Er bod cynulleidfa dda wedi mynychu Gŵyl Gwydir dros y penwythnos (a faint o ddiolch sydd i Gruff Rhys am hynny ‘sgwn i?) mae gwyliau eraill, fel Gŵyl Gardd Goll, wedi ei chael hi’n anodd denu’r torfeydd.
Yn bersonol, dwi’n ffan fawr o Sen Segur ond ddydd Sadwrn roedd fy meddwl i hyd yn oed yn dechrau crwydro wrth glywed yr un set unwaith eto.
Yn Lloegr, mae gwyliau mawr yn gallu fforddio talu digon i fandiau fel eu bod nhw ddim ond yn chwarae yn ei gŵyl nhw. Mae’r ystod eang o fandiau o wahanol genres hefyd yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw dargedu cynulleidfaoedd gwahanol.
Yma yng Nghymru, does gennym ni ddim yr un dewis. Candelas a Sŵnami yw dau o fandiau mwyaf Cymru ar hyn o bryd ac mae un o’r ddau ac, yn amlach na pheidio, y ddau fand, yn chwarae yn y mwyafrif o wyliau cerddorol.
Ond beth yw’r ateb? Mae mentergarwch pobl sy’n cychwyn gwyliau cerddorol i’w ganmol, ac mae hi’n destament i’r bandiau eu bod nhw’n cael cynnig chwarae yn yr holl wyliau.
Rwy’n teimlo ein bod ni ar ryw fath o drobwynt ar hyn o bryd ble mae’r farchnad gwyliau yn llawn i’r ymylon. Bydd rhai ohonynt yn byw ac yn ffynnu i’r dyfodol a bydd eraill yn dod i ben.
Ond o weld sut oedd hi’n Llanrwst dros y penwythnos, mae gen i deimlad y bydd Gŵyl Gwydir yn parhau am dipyn eto.
Candelas yn cloi eu set yng Ngŵyl Gwydir gyda’r gân ‘Anifail’: