Fe fydd gostyngiad treth i holl theatrau Cymru a gweddill Prydain yn dod i rym ar Fedi 1.
Daeth y cyhoeddiad gan Ganghellor y Trysorlys, George Osborne, heddiw ac mae wedi cael ei groesawu gan y Farwnes Randerson o Swyddfa Cymru.
Disgwylir y bydd y gostyngiad treth yn helpu 250 o gwmnïau theatr sy’n rhoi cefnogaeth i ddramâu, sioeau cerdd, opera a chynyrchiadau dawns.
“Mae unrhyw fenter sy’n gallu ein helpu i hybu ac ehangu ein cynnig celfyddydol ardderchog yn derbyn croeso cynnes yng Nghymru,” meddai’r Farwnes Randerson.
“Rydym yn genedl greadigol sydd â hanes gwych o berfformio: ystyriwch ein traddodiad eisteddfodol, gyda’r Genedlaethol yn un o brif wyliau perfformiad Ewrop. “Rydym am i theatrau a pherfformwyr Cymru gael y cyhoeddusrwydd a’r cynulleidfaoedd maent yn eu haeddu.
“Bydd y gostyngiad treth yn hwb gwych i theatrau Cymru a chwmnïau cynhyrchu wrth ei gwneud hi’n haws iddynt lwyfannu perfformiadau a theithio.”