Yn Neuadd Goffa Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle, neithiwr y dangoswyd am y tro cynta’ yng Nghymru ffilm sy’n trafod annibyniaeth yr Alban.
Mae’r ffilm awr a hanner o hyd, Scotland Yet, yn cael ei disgrifio fel gwaith sy’n canolbwyntio ar leisiau bobol gyffredin, yn hytrach na gwleidyddion neu economegwyr, ac yn dangos sut fath o ymgyrchoedd a thrafodaethau sy’n cael eu cynnal yn yr Alban ar hyn o bryd.
Cafodd ei chynhyrchu gan y newyddiadurwr Christopher Silver ac mae wedi cael ei dangos mewn neuaddau cymunedol yng Nghaeredin, Aberdeen, Pennan, Ynys Skye, Milngavie, Dumfries a sawl lleoliad arall ers dechrau Awst.
Yn ôl Ben Gregory, un o drefnwyr y noson ym Mhen-y-groes a fu hefyd yn ymweld â’r Alban ym Mehefin, mae’n bwysig dangos y ffilm yng Nghymru yn ogystal â’r Alban – a hynny cyn ac ar ôl y refferendwm ar Fedi 18.
“Os fydd yr Alban yn pleidleisio ‘Ie’, dw i’n meddwl ei fod yn hyd yn oed mwy pwysig i ddangos y ffilm oherwydd bydd bobol yn cael blas o sut mae’r Alban wedi’i gwneud pethau. Dyna yw neges y ffilm, mae’n bosib ei wneud o,” meddai.
“A dyna hefyd oedd bobol yn teimlo ar ôl gwylio’r ffilm neithiwr, roedden nhw’n ysbrydoledig iawn.”
Gwersi
Roedd bron bob set wedi ei llenwi yn Neuadd Goffa Pen-y-groes, a gwleidyddion Plaid Cymru fel Alun Ffred Jones AC a’r darpar ymgeisydd Sian Gwenllian yn y gynulleidfa.
“Roedd hi’n dda iawn gweld bod pobol wedi dod allan. Roeddem ni’n disgwyl lot o gynulleidfa achos dw i’n meddwl bod yna lot o ddiddordeb yn y mater yng Nghymru. Mae lot o bobol wedi bod yn siarad amdano fo,” meddai Ben Gregory.
Ychwanegodd fod gan Gymru sawl gwers i’w dysgu o’r ffilm:
“Mae’r bobol ar y ffilm yn dweud, os ydyn nhw’n meddwl ei bod hi’n bosib cael cymdeithas deg trwy Brydain, fasen nhw ddim yn brwydro dros annibyniaeth. Ond maen nhw’n gweld annibyniaeth fel ffordd o gael cymdeithas gyfartal. Lle mae pawb yn cael eu cynhyrchiol ac yn cael llais.
“Rydych chi’n gweld hynny yn y ffordd mae gwleidyddiaeth y refferendwm wedi cael ei drefnu a’i weithredu yn yr Alban, ac mae lot o wersi i ni yma yng Nghymru.”
Mae posib gwylio’r ffilm ar: http://scotlandyet.com/.