Fe all cwmni teledu annibynnol Tinopolis gael ei werthu, yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd y Guardian.
Mae’r cwmni o Lanelli wedi cynnal trafodaethau gyda MSC Capital a chwmni teledu o Ganada, Entertainment One, sydd wedi ei restru ar y Farchnad Stoc yn Llundain, meddai Media Guardian.
Y gred yw bod Tinopolis yn gwneud elw o £25 miliwn o elw, a gyda phris gwerthiant tua 10 gwaith hynny, fe all y cwmni fod yn werth tua £250 miliwn.
Tinopolis sydd y tu ôl i raglenni fel Question Time ar y BBC a Big Fat Gypsy Weddings ar Channel 4 ac mae’n un o’r cwmnïau annibynnol mwyaf sy’n darparu gwasanaethau i ddarlledwyr.
Disgrifiwyd gwerthiant cwmnïau annibynnol yn y diwydiant creadigol fel “gold rush” gan Brif Weithredwr Channel 4, David Abraham yn ddiweddar.
Y ddealltwriaeth yw bod MSC Capital wedi gwneud cynnig am y cwmni’r llynedd ond ei fod wedi ei wrthod.
Sefydlwyd Tinopolis yn 1990 ac mae ganddyn nhw ganolfannau cynhyrchu hefyd yng Nghaerdydd, Llundain a Glasgow.
Mae Golwg360 wedi gofyn i Tinopolis am ymateb.