Yr Arglwydd Attenborough
Mae teulu’r Arglwydd Attenborough wedi gofyn i bobl sydd am roi teyrnged iddo, i wneud cyfraniad i’r cartref gofal lle treuliodd ei flynyddoedd olaf.

Dywedodd teulu’r actor a’r cyfarwyddwr, a fu farw ddydd Sul yn 90 oed, y bydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal yn “ddiweddarach eleni”.

Fe fydd ei angladd yn un breifat ar gyfer y teulu’n unig meddai llefarydd.

Mae ei deulu wedi gofyn i bobl wneud cyfraniad i Denville Hall, yn Northwood, Llundain sef cartref gofal i actorion sydd wedi ymddeol.

Fe symudodd yr Arglwydd Attenborough i’r cartref yn 2008 ac mae ei weddw yn parhau i fyw yno.

Roedd Richard Attenborough yn enwog am actio yn y ffilmiau Brighton Rock, a Jurassic Park, a chyfarwyddo’r ffilm Gandhi, gan ennill wyth Oscar.

Fe oedd brawd hynaf y cyflwynydd teledu Syr David Attenborough.