Miriam Elin Jones
Blogwraig cerdd golwg360, Miriam Elin Jones, fu’n mwynhau’r adloniant yn Aberteifi …
Dros y penwythnos, ar gyrion dref Aberteifi gyda’r haul yn gwenu dros y caeau gwyrddion, cynhaliwyd Gŵyl Crug Mawr.
Dyma’r ail flwyddyn yn unig i’r ŵyl gael ei chynnal, ond gyda lein-yp anhygoel a digon o weithgareddau yn ystod y dydd (gan gynnwys ‘Mynd a Llo am Dro’) gobeithiaf y bydd yr ŵyl hon yn tyfu o nerth i nerth.
Cyrhaeddais ar y prynhawn Sadwrn a chael fy nghroesawu gan gerddoriaeth hudolus Palenco ar y llwyfan agored, ac wedi clywed sôn mawr am set wallgof Breichiau Hir a pherfformiad bythgofiadwy Y Ffug y noson cynt, roeddwn yn difaru peidio mynychu Gŵyl Crug Mawr ar y nos Wener hefyd.
Er nad oedd modd prynu tocynnau fesul noson, roedd £20 am docyn penwythnos (gan gynnwys gwersylla) am y nos Sadwrn yn dal i fod yn fargen o ystyried y bandiau niferus oedd yn perfformio ar y tri llwyfan yno.
Sawl llwyfan gwahanol
Bu yno gryn dipyn o ymdrech i addurno’r llwyfannau hefyd. Roedd y cyntaf, y llwyfan agored ar ffurf llong, a enwyd ef (syrpreis, syrpreis) Y Llong, a’r ail, Y Capel, gyda gigs a drefnwyd gan Mafon wedi ei addurno (dyfalwch …) fel capel, gyda meinciau pren i’r gynulleidfa i eistedd.
Palenco'n chwarae ar lwyfan y Llong
Ac ni allwn anghofio’r Castell (nid oes angen i mi ddisgrifio addurniadau’r llwyfan hwnnw). Yn y fan honno roedd y bar, ac nid jyst un llwyfan, ond dau bob pen y babell.
Golyga hynny bod modd mynd o fand i fand yn gymharol ddiffwdan, heb ryw lawer o oedi rhyngddynt. Fodd bynnag, bu rhedeg o res flaen Y Bandana i res flaen Candelas yn dipyn o her!
Byddai’n amhosib i fi drafod bob band a welais y noson honno, ac mae hi’n mynd i fod yn anodd crynhoi uchafbwyntiau i baragraff neu ddau.
Un perfformiad wnes i ei fwynhau’n arw oedd set Rogue Jones. Heb os, ‘random’ yw’r unig air teilwng i ddisgrifio’u perfformiad bywiog, ac rwyf yn gwbl argyhoeddedig y dylai pob band gael dyn wedi gwisgo fel ci yn dawnsio ar lwyfan yn taflu losin i’r gynulleidfa o hyn ymlaen.
Roedd egni Bethan Mai, y prif leisydd, yn heintus ac roedd ei gweld hi’n mwynhau ei hun ar lwyfan yn eich tynnu chi i fwynhau hefyd. Nid wyf wedi stopio canu ‘Little Pig of Tree’ ers dod adref o’r ŵyl, ac edrychaf ymlaen at weld mwy gan Rogue Jones yn y dyfodol.
‘Girl Power’ yn Aberteifi
HMS Morris yn chwarae
Yn ogystal â Bethan Mai, mae’n wir i ddweud mai’r merched gwnaeth yr argraff fwyaf arnaf yng Ngŵyl Crug Mawr eleni.
Cefais gip o set y ddeuawd Saron, gan ryfeddu gweld pabell Y Capel yn llawn dop o bobl yn dawnsio i’w cerddoriaeth o’r 70au. Mae ganddynt ddawn i dynnu pawb i ddawnsio ac mae’n rhwydd anghofio mai spin off o’r ffilm Bur Hoff Bau ydynt.
Roedd perfformiad HMS Morris hefyd yn wefreiddiol ac mae llais Heledd Watkins yn fy nghyfareddu bob tro (i glywed mwy, mae’n werth i chi fynd i wrando ar eu sesiwn ar raglen Huw Stephens o nos Lun diwethaf).
H a’r Band oedd yn cloi’r noson ar lwyfan Y Castell, ac roedd hi’n brofiad rhyfedd gweld y criw hŷn yn heidio i’r ffrynt, a’r criw ifanc yn ei throi hi am y cae sgwâr neu’n tyrru tua’r cefn.
O’i gymharu â pherfformiad egnïol Candelas cyn hynny, roedd e’n ddiweddglo tawel iawn i’r ŵyl. Serch hynny, cafodd bawb gyfle i ganu’r hen ganeuon, gan gynnwys ‘Breuddwyd Roc a Rôl’, ‘Nia Ben Aur’ ac ‘Ysbryd y Nos’, cyn ei throi hi i babell Corryn Du am ref.
Diweddglo annisgwyl iawn i’r noson …
Roedd yna babell yng nghornel maes yr ŵyl nad oeddwn wedi sylwi arno cyn hynny. Pabell wedi ei addurno gyda bagiau plastig duon ac yn llawn goleuadau amryliw.
Pabell o gerddoriaeth ddawns … ac roedd hi’n babell hynod iawn, gyda merched yno yn dawnsio ar bolion ac roedd yna fôr leidr yn refio, a theimlwn fel pe bawn mewn rhyw fath o freuddwyd frawychus.
Afraid dweud, nid oeddwn wedi disgwyl bod yn dawnsio tan dri’r bore mewn gŵyl gerddoriaeth yn Aberteifi.
Byddai wedi bod yn braf gweld mwy o bobl yno (nid mai bai’r trefnwyr yw hynny, wrth gwrs) ond yn y dyfodol, ni synnaf pe bai Gŵyl Crug Mawr yn tyfu ac yn ffynnu. Os fydd lein-yp 2015 hanner cystal ag un eleni, rwyf yn sicr yn bwriadu dychwelyd.