Elis Dafydd
Elis Dafydd sy’n pendroni pa mor berthnasol fydd gwaith Gerallt Lloyd Owen mewn blynyddoedd i ddod …
Yn ystod eu hieuenctid, mae pawb yn dod o hyd i rywbeth sy’n eu cyffroi nhw.
Darllen rhyw lyfr, gweld darn o gelf, clywed albwm, darllen cyfrol o gerddi neu’n gwylio rhyw ffilm sy’n newid eu bydolwg nhw’n llwyr, ac sy’n newid y ffordd y maen nhw’n edrych ar y byd am byth.
Fe ddigwyddodd hynny sawl gwaith i mi pan oeddwn i tua chanol a diwedd fy arddegau.
Pe bawn i wedi fy ngeni yn ystod y chwedegau, mae’n siŵr y byddai clywed am y tro cyntaf y cerddi a enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd 1969 i Gerallt Lloyd Owen, a chael darllen y cerddi hynny – a cherddi eraill – yn y gyfrol Cerddi’r Cywilydd yn 1972 wedi creu argraff ddofn arna’ i. Ond fe’m ganwyd ryw ddeng mlynedd ar hugain yn rhy hwyr i hynny.
Ac er fy mod i wedi “darganfod” sawl llyfr, darn o gelf, albwm, cyfrol o gerddi a ffilm o’r degawdau cyn imi gael fy ngeni, fedra’ i ddim dweud i mi “ddarganfod” Gerallt Lloyd Owen, a hynny am nad ydi hi’n bosib “darganfod” rhywbeth sydd o’ch cwmpas chi ym mhob man.
Gwewyr Gerallt
Dydw i ddim yn cofio’r tro cyntaf imi glywed am Gerallt – roedd o’n enw ac yn llais cyfarwydd ers rydw i’n cofio.
Ac er ’mod i’n cofio darllen ‘Fy Ngwlad’ a dysgu cerddi eraill am y tro cyntaf, rhaid imi ddweud na wnaeth y cerddi hynny newid fy mydolwg i o gwbl a hynny am mai rhoi mynegiant i rywbeth roeddwn i’n ei wybod yn barod roedden nhw’n ei wneud, nid dweud rhywbeth hollol newydd wrtha’ i.
Wrth dyfu i fyny’n siarad Cymraeg ddiwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar ddeg, mae rhywun yn dod yn ymwybodol yn gyflym iawn o’r ffaith fod ei iaith a’i wlad o’n marw.
Rhoi’r boen a’r gwewyr hwnnw mewn geiriau oedd dawn fawr Gerallt, a dyna am wn i oedd un o’r rhesymau pam y cafwyd cymaint o deyrngedau iddo – roedd yn rhaid gallu deall Cymraeg er mwyn darllen ei gerddi, ac roedd y cerddi hynny’n rhoi mynegiant i bryder eu darllenwyr ynglŷn â’u hiaith.
Darllenwyr y dyfodol
Dywedodd Myrddin ap Dafydd y bydd pobl yn darllen cerddi Gerallt tra bydd y Gymraeg yn fyw, a bod hynny’n un cymhelliant i frwydro dros yr iaith – fel y gall y cenedlaethau ddod i ddarllen cerddi Gerallt.
Ond a bod yn optimistaidd iawn, dychmygwch am funud y bydd Cymru yn 2514, ymhen pum canrif, yn wlad gwbl annibynnol ac mai Cymraeg fydd mamiaith dros 90% o’i thrigolion. Ai pwnc i haneswyr yn unig fydd beth ddigwyddodd yng Nghilmeri yn 1282?
A fydd y mewnlifiad yn angof? Fydd yna unrhyw un yn ymwybodol mor agos y bu’n cenedl ni i ddiflannu dros ymyl dibyn?
Ac o’i dafoli mewn Cymru felly, a gaiff Gerallt ei ganfod yn brin am na fydd yr argyfwng yr oedd o’n canu iddo’n berthnasol nac yn gyfarwydd i drwch ei thrigolion? Ai dim ond gwerth hanesyddol a chynganeddol fydd i Cerddi’r Cywilydd a Cilmeri a Cherddi Eraill yn 2514?
Mae yna ddau bosibilrwydd.
Y cyntaf yw na fydd neb ymhen canrifoedd yn darllen cerddi Gerallt oherwydd na fydd neb yn deall yr iaith yr ysgrifennwyd nhw ynddi. Yr ail yw na fydd pobl gyffredin Cymru ymhen canrifoedd yn gweld pwrpas mewn darllen ei gerddi am na allan nhw uniaethu â’r hyn y mae’n canu amdano.
Mae’r posibilrwydd cyntaf yn ddigon i dorri calon rhywun. Mae’r ail yn peri dipyn o chwithdod imi hefyd.