Benedict Cumberbatch a Martin Freeman yn Sherlock
Mae’r gyfres dditectif Sherlock wedi cipio rhai o brif wobrau’r Emmys  mewn seremoni yn Los Angeles.

Roedd  Benedict Cumberbatch a Martin Freeman wedi ennill gwobrau am yr actor gorau a’r actor cynorthwyol gorau am chwarae’r cymeriadau Sherlock Holmes a Dr Watson yng nghyfres BBC Cymru.

Fe enillodd Steven Moffat wobr am  sgriptio’r gyfres.

Roedd na deyrnged hefyd i’r actor Robin Williams fu farw ar 11 Awst.