Mae’r awdurdodau yn China wedi cau gwyl ffilmiau annibynol ar ei diwrnod agoriadol.

Roedd y digwyddiad yn un o’r rhai prin lle’r oedd ffilmiau beirniadol o’r llywodraeth yn cael eu dangos.

Ond heddiw, mae Wang Hongwei a Fan Rong, a oedd yn gyfrifol am drefnu a rhedeg yr 11eg Gwyl Ffilmiau Annibynnol Beijing, wedi cadarnhau eu bod wedi cael eu gorfodi i gau i lawr.

Mae heddlu yn ardal Songzhuang, Beijing, lle’r oedd disgwyl i’r wyl gymryd lle, yn dweud nad ydyn nhw’n ymwybodol o unrhyw waharddiad na gorchymyn i gau.

Fe ddechreuodd yr wyl fel fforwm i drafod ffilmiau yn 2006, ac mae wedi tyfu’n un o’r digwyddiadau pwysica’ i wneuthurwyr ffilmiau annibynnol yn China ers hynny. Ond roedd hefyd wedi tynnu sylw’r awdurdodau oedd yn awyddus i reoli mynegiant rhydd.

Yn 2012, fe gafodd cyflenwad trydan yr wyl ei dorri toc wedi iddi agor – er bod y trefnwyr wedi llwyddo i gario ymlaen i ddangos ffilmiau newydd bryd hynny.