Mae ymgyrch ragbrofol newydd ar fin cychwyn i gefnogwyr tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru, wrth i’r tîm geisio cyrraedd twrnament rhyngwladol o’r diwedd.
Ar drothwy’r gêm agoriadol i ffwrdd yn Andorra, felly, Iolo Cheung sy’n awgrymu pum peth allai beri trafferth i Gymru – a phum rheswm pam nad oes rhaid poeni.
Plastig ffantastig?
Yr wythnos hon fe glywsom ni y gallai’r gêm gael ei symud o Andorra os nad yw’n pasio archwiliad hwyr gan FIFA – does dim disgwyl penderfyniad nawr tan ddechrau’r wythnos nesaf, ychydig dros wythnos cyn y gêm.
Fe fyddai hynny yn ei hun yn creu digon o gur pen i gefnogwyr Cymru a’r tîm, fyddai mwy na thebyg yn gorfod newid eu trefniadau er mwyn chwarae rhywle’n ardal Barcelona.
Ond beth petai’r gêm yn mynd ‘mlaen ar gae plastig newydd Andorra? Mae’n arwyneb anghyfarwydd i chwaraewyr Cymru, ac mae rhai’n awgrymu bod chwaraewyr yn fwy tebygol o gael anafiadau cyhyrol ar gae o’r fath.
Byddai’n teimlo mwy fel sesiwn ymarfer ar yr astro yn hytrach na gêm gystadleuol ryngwladol.
Fe fyddai anafiadau yn ystod y gêm yn ddigon gwael – ond beth petai nhw hefyd yn cadw chwaraewyr allan o’r ddwy gêm ym mis Hydref?
Canol yr amddiffyn
Mae James Collins eisoes wedi tynnu allan o’r garfan oherwydd anaf, gyda Paul Dummett yn cymryd ei le.
Ond mae hyn yn gadael Ashley Williams a James Chester fel yr unig ddau amddiffynnwr canol yn y garfan.
Fe allai Sam Ricketts, Dummett, Chris Gunter neu hyd yn oed Ben Davies lenwi fewn yno petai angen, ond dyw hi ddim yn sefyllfa ddelfrydol i Chris Coleman.
O gofio bod rownd arall o gemau’r Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth i ddod cyn i garfan Cymru ddod at ei gilydd, mae’n bosib mai nid Collins fydd yr unig un fydd yn anfon nodyn doctor i Coleman.
Trafferth y timau bach
Dyw Cymru ddim wedi gwneud yn wych yn erbyn y timau gwanaf yn y grŵp dros yr ymgyrchoedd diwethaf, yn enwedig i ffwrdd o gartref.
Ni oedd y tîm ‘gwanaf’ y tro diwethaf, ond fe gollon ni 2-1 i ffwrdd i Macedonia, y tîm orffennodd ar waelod y grŵp yn y diwedd.
Yr un oedd y stori yn ymgyrch Ewro 2012, pan deithion ni i ddwyrain Ewrop a cholli 1-0 i Montenegro, canlyniad a ffarweliodd â John Toshack.
Liechtenstein oedd y gwrthwynebwyr yn ymgyrch Cwpan y Byd 2010, gyda Chymru’n gorfod aros am gôl hwyr gan Aaron Ramsey i gipio buddugoliaeth o 2-0.
Roedd hi hyd yn oed llai cyfforddus yn San Marino yng ngrŵp Ewro 2008, pan enillon ni 2-1. Ie, 2-1, yn erbyn tîm sydd yn swyddogol y gwaethaf yn Ewrop.
Peidiwch â synnu os yw Cymru’n gwneud pethau’n anodd i’w hunain yn Andorra felly.
Trafferth y timau mawr
Sôn ydw i rŵan am drafferth timau mawr sy’n ymweld ag Andorra – yn yr ymgyrch ddwytha fe aeth yr Iseldiroedd a Thwrci yno, ac ennill dim ond 2-0.
Roedd hi’n ddi-sgôr rhwng Andorra a’r Iseldiroedd ar yr egwyl, a dim ond dwy gôl yn yr ail hanner gan Robin Van Persie gipiodd y canlyniad i’r ymwelwyr.
Dydi Andorra ddim yn dîm ymosodol, ond mae’n ymddangos eu bod nhw’n ddigon hapus i eistedd nôl yn amddiffynnol a cheisio rhwystro’u gwrthwynebwyr rhag sgorio.
Bydd angen i ymosodwyr Cymru gymryd y cyfleoedd sy’n dod eu ffordd nhw.
Ble mae’r streicars?
Sy’n dod at broblem olaf Cymru, y diffyg ymosodwyr. Mae Sam Vokes wedi’i anafu, Hal Robson-Kanu’n dychwelyd o anaf, a Simon Church heb ddechrau i Charlton yn y gynghrair y tymor yma.
Dyw Craig Davies na Jermaine Easter yn y garfan – ac mae dilema Ched Evans eto i ddod.
Fe allai Tom Lawrence gael ei ddefnyddio yn erbyn Andorra, tra bod sôn y gallai Gareth Bale gael ei ystyried fel prif ymosodwr hefyd.
All pwy bynnag sydd yn cael eu dewis i arwain yr ymosod ddim fforddio i ymlacio – bydd angen rhywun i sgorio’r cyfleoedd y mae Cymru’n bownd o greu.
A phum rheswm i beidio â phoeni …
Detholiadau’r byd: mae Andorra’n 199ain yn rhestr detholiadau’r byd, a San Marino yw’r unig dîm Ewropeaidd sy’n waeth na nhw. Mae’r rhain wir ymysg un o’r timau rhyngwladol gwaethaf ar y blaned.
Maint: mae Andorra’n un o’r gwledydd lleiaf yn Ewrop – mae’n llai nag Ynys Môn – â phoblogaeth o 85,000 yn unig. Di llawer o bêl-droedwyr i ddewis ohonyn nhw, felly, a does ganddyn nhw’r un clwb proffesiynol.
Record ragbrofol: Fe gollodd Andorra bob un o’u deg gêm gystadleuol yn eu hymgyrch ragbrofol ddiwethaf. A phob un gêm yn y tair ymgyrch ragbrofol cyn hynny. Y tro diwethaf iddyn nhw gael pwynt oedd gêm ddi-sgôr yn erbyn y Ffindir yn 2005.
Ennill unwaith: Un gêm gystadleuol mae Andorra erioed wedi ennill ers dechrau chwarae pêl-droed rhyngwladol nôl yn 1996, 1-0 yn erbyn Macedonia yn 2004. Dim ond dwy fuddugoliaeth arall, mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Albania a Belarws, maen nhw wedi’i gael mewn 118 gêm.
Goliau gwag: Nid yn unig dydyn nhw heb ennill ers degawd, dydyn nhw prin wedi sgorio yn y cyfnod hwnnw. Dim goliau yn yr ymgyrch diwethaf, a dim ond un yn yr ymgyrch cynt – i ffwrdd yng Ngweriniaeth Iwerddon. Os ydi Cymru’n ildio yn erbyn rhain …