Fe allai’r galw yn y byd pêl-droed ar i wledydd Prydain uno ar gyfer un tîm rhyngwladol gynyddu pe na bai’r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth, yn ôl adroddiadau yn Rwsia.
Petai’r Albanwyr yn pleidleisio ‘Na’ ar Fedi 18, mae’n debygol y byddai nifer cynyddol yn y byd pêl-droed yn galw ar y gwledydd i chwarae o dan un ‘Tîm GB’, meddai swyddog dienw o FIFA wrth asiantaeth newyddion Ria Novosti.
Ar hyn o bryd mae gan Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd dimau rhyngwladol eu hunain er eu bod yn rhan o’r un wladwriaeth, sefyllfa unigryw o fewn FIFA.
Cenfigen?
Fodd bynnag, yn y gorffennol mae rhai gwledydd wedi mynegi anniddigrwydd â’r ‘statws arbennig’ sydd gan wledydd Prydain.
Ac yn ôl y swyddog a siaradodd â Ria Novosti, fe allai’r bobl hynny weld cyfle perffaith i orfodi’r Prydeinwyr i greu Tîm GB petai’r Alban yn pleidleisio Na.
“Os yw’r Albanwyr yn pleidleisio Na fe fyddwch chi’n gweld y ddadl honno yn codi eto,” meddai’r ffynhonnell o FIFA.
“Fe fydd pwysau cynyddol i ddelio ag eithriad y DU o’r diwedd. Ar ôl pleidlais Na fe fydd llawer o’r gwledydd sy’n genfigennus o statws pêl-droed arbennig y DU yn gweld cyfle perffaith.”
O dan reolau FIFA dyw gwledydd fel Catalwnia a Gwlad y Basg, er enghraifft, sydd yn rhan o wladwriaethau mwy, ddim yn cael ffurfio timau rhyngwladol swyddogol eu hunain.
Fe awgrymodd rhai hefyd fod y ffaith fod Prydain wedi ffurfio Tîm GB ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn arwydd y gallai tîm Prydeinig parhaol weithio, gydag AS Ceidwadol Laurence Robertson yn galw am hynny’n ddiweddar fel ffordd o gael tîm rhyngwladol gwell.
Ond mae cymdeithasau pêl-droed y pedair gwlad yn gwrthwynebu’r cam yn llwyr.