Mae Abertawe wedi arwyddo’r chwaraewr ifanc James Demetriou yn rhad ac am ddim o Nottingham Forest.

Mae’r ymosodwr 19 oed wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd ac fe fydd e’n cystadlu am le yn nhîm dan 21 yr Elyrch.

Ers blwyddyn yn unig mae chwaraewr dan 21 Cyprus, gafodd ei eni yn Awstralia, wedi bod yn chwarae yng Nghynghrair Bêl-Droed Lloegr, wedi iddo symud o Sydney Olympic y llynedd.

Yn dilyn ei drosglwyddiad i Abertawe, dywedodd Demetriou: “Mae’n wych cael bod yma.

“Mae wedi cymryd amser hir i gael trefn ar bopeth ond mae’n deimlad braf ac rwy am fwrw ati nawr a chanolbwyntio ar y tymor i ddod.

“Mae Abertawe’n glwb yn yr Uwch Gynghrair, maen nhw’n chwarae dull da o bêl-droed ac maen nhw’n dîm sy’n rhoi cyfleoedd i chwaraewyr ifainc.

“Fy nod yn y tymor byr yw chwarae mewn gemau a cheisio sgorio cymaint o goliau â phosib ond yn y tymor hir, rwy am dorri drwodd i’r tîm cyntaf yma a chreu argraff ar y rheolwr.”