Fe fydd achosion chwaraewyr rygbi Cymru sydd yn dewis chwarae mewn gwledydd eraill yn cael eu trin fesul un, meddai Undeb Rygbi Cymru.
Does dim modd gosod rheolau caeth, meddai Prif Weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, ond “os bydd chwaraewyr yn cefnogi rygbi Cymru, fe fydd rygbi Cymru yn eu cefnogi nhw,” meddai.
Roedd yn siarad gyda Radio Wales ar ôl i’r Undeb a’r rhanbarthau lwyddo o’r diwedd i gytuno ar gynllun chwe blynedd i gyllido’r gêm yng Nghymru.
Fe fydd hwnnw’n golygu bod yr Undeb a’r rhanbarthau’n rhannu’r cyfrifoldeb am gyflogau deg o chwaraewyr rhyngwladol ac y gallai rhai chwaraewyr sydd gyda chlybiau tramor golli’r hawl i chwarae i Gymru.
Y dadlau’n parhau
Ond mae’r dadlau am y cytundeb yn parhau – gydag un o gyfarwyddwyr rhanbarth y Gweilch yn gwadu honiad Roger Lewis bod y trafodaethau wedi bod yn gyfeillgar.
Yn ôl y Prif Weithredwr, doedd dim gair croes wedi bod rhwng y ddwy ochr yn ystod y trafodaethau eu hunain ond nid felly yr oedd hi o gwbl, meddai Rod Davies.
Fe ddywedodd hefyd fod y cytundeb a gafodd ei arwyddo ddoe ar gael fisoedd ynghynt yn hydref 2013 gan ddweud fod yr anghydfod wedi gwneud drwg i rygbi Cymru.
Ond fe ddywedodd yntau fod y rhanbarthau’n sicr y gallan nhw wneud i’r cytundeb weithio.