Mae Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau wedi dod i gytundeb ariannol o’r diwedd, gan ddod a misoedd o ansicrwydd i ben.

Roedd y ddwy ochr yn trafod sut i ddosbarthu arian ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac mae’r pecyn a arwyddwyd heddiw werth £60m yn para nes 2020.

Fe fydd yr Undeb yn sefydlu pot o £6.7m i’w ddosbarthu i’r rhanbarthau pan fydd eu chwaraewyr yn cael eu galw i chwarae dros Gymru.

Bydd yr Undeb hefyd yn rhoi £2m tuag at gytundebau canolog, gyda’r rhanbarthau’n cyfrannu £1.3m a Warren Gatland yn penderfynu pa chwaraewyr fydd yn cael eu cynnig.

Mae disgwyl i’r Gleision, Gweilch, Scarlets a’r Dreigiau dderbyn un taliad o £500,000 yr un hefyd, ac fe fydd yr Undeb hefyd yn rhoi £600,000 tuag at academiau ieuenctid y rhanbarthau.

Amodau ar y rhanbarthau

Fodd bynnag, be fydd disgwyl i chwaraewyr y rhanbarthau fod ar gael i’r tîm rhyngwladol 13 diwrnod cyn unrhyw gêm, gan gynnwys bod ar gael i’r gêm yn yr hydref sydd y tu allan i’r ffenest ryngwladol.

Ni fydd yr un rhanbarth yn cael mwy na chwe chwaraewr rhyngwladol, a dau ychwanegol fydd yn gweithio tuag at fod yn gymwys i Gymru.

Bydd tîm Cymru A hefyd yn cael ei ailsefydlu i chwarae o gwmpas cyfnod gemau’r Chwe Gwlad, tra bod Gatland yn bwriadu bod yn llymach ynglŷn â dewis chwaraewyr sydd yn chwarae dramor ar gyfer y tîm rhyngwladol.

Roedd yr ansicrwydd dros y misoedd diwethaf wedi arwain at chwaraewyr yn symud o ranbarthau Cymru, gydag Adam Jones a Sam Warburton hefyd yn methu â chwarae i’r rhanbarth o’u dewis nhw cyn i gytundeb gael ei arwyddo.