Ian Gough
Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Ian Gough wedi cael gorchymyn i dalu £2,130 o ddirwy a chostau ar ôl iddo ymosod ar ei gyn-gariad.

Roedd Gough, 37 oed, wedi gafael yn Sophia Cahill, sy’n gyn Miss Cymru, a’i gwthio yn erbyn ei fan wrth iddo ddychwelyd eu mab, Gabriel, 2 oed, i’w chartref ar 5 Ionawr.

Dywedodd Sophia Cahill ei bod yn ei dagrau ar ôl yr ymosodiad y tu allan i’w chartref yn ne Llundain, lle mae’n byw gyda’r canwr pop Dane Bowers. Roedd y ddau wedi dyweddïo ddyddiau’n unig cyn yr ymosodiad.

Nid oedd Sophia Cahill yn Llys Ynadon Croydon heddiw wrth i Ian Gough gael ei ddedfrydu ond dywedodd mewn datganiad a gafodd ei ddarllen i’r llys ei bod wedi dioddef poen meddwl ers yr ymosodiad.

Dywedodd bod y feddyginiaeth mae hi’n ei gymryd ar gyfer yr anhwylder yn golygu nad yw hi’n gallu gyrru, sydd wedi effeithio ei gwaith fel cyflwynydd teledu.

Mae Sophia Cahill hefyd yn honni ei bod wedi cael ei phoenydio gan deulu Gough a bod honiadau wedi ymddangos amdani ar gyfryngau cymdeithasol.

Ond roedd Mark Haslam, ar ran yr amddiffyniad, wedi cwestiynu honiad Sophia Cahill nad oedd hi’n gallu gyrru gan ddweud ei bod wedi cael ei gweld yn gyrru ei Jeep yn Abertawe ddydd Mawrth.

Dywedodd Mark Haslam bod yr anghydfod wedi deillio o nifer o alwadau ffôn rhwng y ddau’r noson honno am fod Gough yn hwyr yn dychwelyd eu mab. Ond ychwanegodd bod yr ymosodiad yn “ddigwyddiad unigryw” a bod Gough yn “dad cariadus”.

Roedd Gough a Sophia Cahill wedi gwahanu yn 2011 pan oedd hi’n feichiog gyda’u mab.

Cafwyd Gough yn euog o ymosod ar ôl achos llys fis diwethaf. Dywedodd Mark Haslam ei fod yn apelio yn erbyn y dyfarniad.

Cafodd Gough ddirwy o £1,050 a gorchymyn i dalu gordal dioddefwr o £105, cyfraniad o £775 tuag at gostau’r erlyniad a £200 o iawndal i Sophia Cahill.