Ki yn aros yn Abertawe
Mae chwaraewr canol-cae Abertawe, Ki Sung-Yueng wedi canmol rheolwr yr Elyrch, Garry Monk ac wedi dweud ei fod yn un o’r rhesymau pam ei fod e wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.
Daeth cadarnhad heddiw y bydd Ki yn aros yn y Liberty am bedair blynedd arall, yn dilyn cyfnod o ansicrwydd i’r gŵr o Dde Corea.
Roedd ganddo fe flwyddyn yn weddill o’i gytundeb blaenorol.
Cafodd Ki ei anfon ar fenthyg i Sunderland gan y rheolwr blaenorol, Michael Laudrup ond mae’n ymddangos bod Monk yn ei ystyried yn un o’r chwaraewyr allweddol yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.
Dywedodd Ki wrth wefan yr Elyrch: “Mae cryn dipyn o wahaniaeth mewn blwyddyn yn unig.
“Roedd angen i fi dyfu fel chwaraewr ac mae gyda fi lawer mwy o hyder ers i fi ddychwelyd.
“Eleni, dw i am ddangos faint dw i wedi tyfu.
“Ry’n ni’n gweithio’n galed iawn wrth ymarfer.
“Dw i’n nabod y rheolwr yn dda iawn ac mae e’n fy nabod i. Mae e’n gwybod beth yw fy nghryfderau a ’ngwendidau, a galla i ddysgu oddi wrtho fe.
“Mae e am i ni fod yn drefnus iawn ac yn ddisgybledig.
“Dw i’n hoffi’r ffordd mae e’n rheoli a dw i’n credu y byddwn ni’n gwella tipyn o dan ei reolaeth e.”