James Collins
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fydd yr amddiffynnwr James Collins yn ymuno â charfan Cymru ar gyfer eu gêm ragbrofol yn Andorra ar 9 Medi oherwydd anaf i linyn y gâr.

Amddiffynnwr Newcastle Paul Dummett fydd yn cymryd ei le yn y garfan, ac fe allai’r gŵr 22 oed chwarae ei gêm gystadleuol cyntaf dros Gymru.

Collins yw’r chwaraewr cyntaf i dynnu nôl o’r garfan, wrth i’r rheolwr Chris Coleman enwi grŵp cryf ddoe ar gyfer y gêm gyntaf yn ymgyrch Ewro 2016.

Yr unig chwaraewr ag anaf hir dymor sydd ddim yn y garfan yw’r ymosodwr Sam Vokes.

Fe ddaeth Dummett ymlaen am ychydig funudau ar gyfer ei gap cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd ym mis Mehefin.

Ond gan nad yw wedi chwarae gêm gystadleuol dros Gymru eto, fe allai’r amddiffynnwr a gafodd ei eni a’i fagu yn Newcastle dal gynrychioli Lloegr.

Mae’r un peth yn wir am George Williams a Tom Lawrence, dau chwaraewr ifanc addawol arall mae Coleman wedi’i gynnwys yn y garfan.

Petai’r tri yn chwarae unrhyw ran yn Andorra, dim ond Cymru allan nhw gynrychioli mewn pêl-droed rhyngwladol wedyn.

Ddoe fe godwyd amheuon a fyddai’r gêm yn medru cael ei gynnal yn Andorra, gan fod y cae artiffisial newydd yn wynebu archwiliad gan FIFA fory.

Y dewis arall mwyaf tebygol fyddai symud y gêm i rywle yn Sbaen, gan achosi newid trefniadau i dros fil o gefnogwyr Cymru sydd wedi bwriadu teithio yno.