Stadiwm y Mileniwm
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi dweud eu bod yn hyderus mai Wembley fydd yn cael ei ddewis i gynnal gemau terfynol Ewro 2020 – rhywbeth fyddai’n hwb i gais Cymru.

Dim ond Llundain a Munich sydd yn cystadlu i gynnal dwy gêm gynderfynol a ffeinal y twrnament mewn chwe blynedd.

Ac mae’r Saeson yn hyderus fod penderfyniad yr Almaenwyr i ganolbwyntio ar geisio cynnal y twrnament cyfan yn 2024 yn rhoi mantais iddyn nhw yn y ras.

Byddai cynnal y gemau terfynol y twrnament yn 2020 yn Lloegr yn hwb i gais Cymru, sydd wedi gwneud cais am dair gêm grŵp ac un gêm yn rownd yr 16 neu’r wyth olaf.

“Rydym yn hyderus iawn gyda’n cais,” meddai ysgrifennydd cyffredinol FA Lloegr Alex Horne.

“Rydym yn gwybod eu bod nhw [yr Almaenwyr] yn edrych ar Ewro 2024, ond does dim wedi’i gadarnhau.”

Ffurf newydd

Fe benderfynodd UEFA newid ffurf cystadleuaeth 2020, gydag 13 dinas ar draws Ewrop yn cystadlu i gynnal hyd at bedair gêm yr un, yn hytrach na’r drefn bresennol ble mae un neu ddwy wlad yn cynnal y twrnament.

Yn ogystal â Chaerdydd, mae Glasgow a Dulyn hefyd wedi gwneud ceisiadau i gynnal gemau, gyda UEFA’n cyhoeddi’r dinasoedd buddugol ar 19 Medi eleni.

Y disgwyl yw mai dim ond dwy stadiwm o ynysoedd Prydain ac Iwerddon fyddai’n cael eu dewis i gynnal gemau grŵp.

Ond petai Lloegr yn cael y gemau terfynol yn lle hynny, mae’n golygu tebygolrwydd mai dau allan o’r tri rhwng Cymru, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon fyddai’n cael eu dewis.

Yn ddiweddar fe gynhaliodd Stadiwm Dinas Caerdydd ffeinal y Super Cup, rhan o ymgais Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddangos fod Caerdydd yn medru cynnal gemau Ewropeaidd mawr.

Stadiwm y Mileniwm fyddai’n cynnal gemau Ewro 2020 petai’r cais yn llwyddiannus.

Yn ddiweddar fe ddywedodd swyddog cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, wrth Golwg fod cais Cymru i gynnal Ewro 2020 “yn cael ei ystyried o ddifrif” gan UEFA.