Bafetimbi Gomis
Mae ymosodwr newydd Abertawe Bafetimbi Gomis wedi cyfaddef ei fod wedi defnyddio ffordd annisgwyl o ddod i nabod ei glwb a’i gyd-chwaraewyr newydd – wrth chwarae Football Manager!

Mae’r gêm gyfrifiadurol boblogaidd yn gosod y chwaraewr yn esgidiau rheolwr pêl-droed ac yn ceisio efelychu’r byd go iawn mor agos â phosib gyda’r chwaraewyr go iawn.

Ac yn ôl Gomis, roedd hon yn ffordd ddelfrydol o ddarganfod beth oedd yn ei ddisgwyl yn Abertawe.

“Cyn arwyddo yma, fe dreuliais i fis yn chwarae fel Abertawe er mwyn dod i nabod fy nghyd-chwaraewyr – i ddarganfod mwy amdanynt,” cyfaddefodd Gomis, a symudodd o Lyon yn yr haf.

“Wrth gwrs, fe wyliais glipiau fideo er mwyn gweld sut oedd y tîm yn chwarae, ond mae’n wir fod y gêm wedi fy nysgu i am rinweddau fy nghyd-chwaraewyr – eu hoed, ble roedden nhw’n arfer chwarae a’u galluoedd.

“Fe ddysgais i am hanes y clwb hefyd. Roedd yn bwysig gwybod pa fath o glwb oedd Abertawe, yr elyniaeth gyda Chaerdydd, a phethau eraill.”

Pwysigrwydd Monk

Dywedodd Gomis hefyd ei fod wedi darganfod pa mor bwysig fu rôl Garry Monk, y cyn-gapten sydd bellach yn rheolwr, ar ddatblygiad y clwb.

“Fe sylweddolais fod y rheolwr Garry Monk yn chwaraewr pwysig i Abertawe, fu’n eu helpu i godi i’r brif adran yng nghynghreiriau Lloegr,” esboniodd Gomis, sy’n 29 oed.

Llwyddodd Gomis i orffen yn wythfed gydag Abertawe yn ei dymor cyntaf ar y gêm, gan gipio ambell fuddugoliaeth yn erbyn y timau mawr.

Ac mae’n ffyddiog fod safon y tîm yr un mor dda mewn gwirionedd.

“Roedd gen i chwaraewyr da yn y tîm, yn ôl y gêm,” meddai Gomis.

“Pan ymunais â’r tîm yn Chicago [ar eu taith haf] ni gymrodd lawer o amser i mi sylwi fod hyn hefyd yn wir yn y byd go iawn. Rwy’n hapus iawn mod i wedi dewis ymuno ag Abertawe.”