Ched Evans
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi dweud y bydd yn gorfod sgwrsio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru cyn penderfynu os gaiff Ched Evans chwarae dros Gymru unwaith eto.

Fe gafwyd Evans yn euog yn 2012 o dreisio dynes 19 oed, ac fe fydd yn cael ei ryddhau o’r carchar ym mis Hydref ar ôl treulio hanner o’i ddedfryd pum mlynedd dan glo.

Fe gyhoeddodd Coleman ei garfan ar gyfer gêm gyntaf ymgyrch Ewro 2016 Cymru heddiw, ac mae’n brin o ymosodwyr profiadol yn enwedig gydag anaf Sam Vokes.

A phan ofynnwyd iddo a fyddai’n ystyried dewis Evans ar gyfer gemau’n hwyrach yn yr ymgyrch, dywedodd nad oedd penderfyniad wedi’i wneud eto.

“Mae’n sgwrs fwy na phum munud i mi,” meddai Coleman. “Mae’n un mae’n rhaid i ni ystyried yn fanwl oherwydd difrifoldeb y sefyllfa.

“Dw i heb gael y sgwrs yna gydag unrhyw un eto, er mod i wedi meddwl amdano fy hun.

“Fel arfer y rheolwr sy’n dewis y garfan. Mae hwn yn wahanol ac fe fyddai’n rhaid i mi drafod y peth â swyddogion CBDC.
“Petai Ched yn dychwelyd i glwb a gwneud yn dda, yna mae’n sgwrs i ni gael.

“Dw i ddim yn nabod Ched ei hun, ond byddai’n rhaid i mi siarad ag ef hefyd.”

Mae cadeirydd clwb cefnogwyr Sheffield United, cyn-glwb Evans, eisoes wedi dweud fod y clwb wedi dweud wrthyn nhw y byddan nhw’n ailarwyddo’r ymosodwr 25 oed pan fydd yn gadael y carchar.

Ond mae 60,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gofyn i’r clwb beidio ag ailarwyddo Evans gan y byddai’n anfon y neges anghywir i bobl sydd wedi’u canfod yn euog o dreisio.