Mae Cymru wedi enwi carfan gryf ar gyfer eu gêm ragbrofol Ewro 2016 gyntaf yn erbyn Andorra ar 9 Medi.

Y newyddion da i’r rheolwr Chris Coleman yw bod sêr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen ac Ashley Williams i gyd ar gael ar gyfer y daith.

Mae chwaraewyr ifanc gan gynnwys Tom Lawrence a George Williams wedi cael eu cynnwys yn y garfan, ac fe allwn nhw wneud eu hymddangosiad cystadleuol cyntaf dros Gymru.

Roedd y ddau yn y garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar ym mis Mehefin yn erbyn yr Iseldiroedd, ond dim ond Williams ddaeth ymlaen am ei gap cyntaf.

Ac mae Joe Ledley a Hal Robson-Kanu hefyd wedi’u cynnwys, er gwaethaf amheuon dros eu ffitrwydd.

Fe allai’r golwyr Owain Fôn Williams a Kyle Letheren ennill eu cap cyntaf dros Gymru petai nhw’n dod i’r maes.

Fodd bynnag dyw Jack Collison a Danny Gabiddon, sydd heb glybiau ar hyn o bryd, ddim wedi’u cynnwys yn y garfan,  a dyw Paul Dummett o Newcastle heb gael ei enwi chwaith.

Mae Sam Vokes allan ag anaf hir dymor i’w ben-glin, tra bod dim lle yn y garfan i ymosodwyr eraill megis Craig Davies a Jermaine Easter.

Problem gyda’r cae?

Heddiw fe ddaeth i’r amlwg fod FIFA’n bwriadu archwilio cae stadiwm newydd Andorra, sydd yn un artiffisial, cyn diwedd yr wythnos.

Os nad yw FIFA’n hapus â safon y cae, fe allai Andorra wynebu gorfod dod o hyd i stadiwm arall ar fyr rybudd erbyn y gêm ar 9 Medi – gan olygu fod dros fil o gefnogwyr Cymru sydd yn bwriadu teithio i’r gêm yn gorfod newid eu trefniadau.

Y gêm yn erbyn Andorra yw’r un cyntaf yn ymgyrch ragbrofol Cymru i geisio cyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc.

Fe fyddwn nhw hefyd yn wynebu Bosnia-Herzegovina, Cyprus, Gwlad Belg ac Israel yn y grŵp, gyda’r ddau dîm gorau’n mynd drwyddo a’r trydydd yn cyrraedd y gemau ail gyfle.

Heddiw fe gyhoeddwyd fod gêm Gwlad Belg i ffwrdd yn Israel, oedd i fod ar 9 Medi, wedi cael ei symud i 31 Mawrth 2015 oherwydd y gwrthdaro yn Gaza – mae Cymru’n teithio i Israel ar 28 Mawrth 2015.

Carfan Cymru:

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Kyle Letheren (Dundee), Owain Fôn Williams (Tranmere)

James Chester (Hull), James Collins (West Ham), Ben Davies (Tottenham), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Wolves), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe)

Joe Allen (Lerpwl), Emyr Huws (Wigan, ar fenthyg o Man City), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Nottingham Forest)

Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton), Tom Lawrence (Manchester United), Hal Robson-Kanu (Reading), George Williams (Fulham), Jonathan Williams (Crystal Palace)