Mae’n bosib na fydd Andorra’n medru cynnal gêm ragbrofol Ewro 2016 yn erbyn Cymru mewn llai na phythefnos.

Heddiw fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Andorra y bydd FIFA’n archwilio cae eu stadiwm newydd, sydd yn un artiffisial, fory neu ddydd Gwener.

Os nad yw FIFA’n hapus â safon y cae, fe allai Andorra wynebu gorfod dod o hyd i stadiwm arall ar fyr rybudd erbyn y gêm ar 9 Medi.

Gallai hyn greu cryn dipyn o drafferth i gefnogwyr oedd wedi bwriadu teithio i’r wlad fechan rhwng Ffrainc a Sbaen, gyda disgwyl y bydd dros fil o Gymry’n mynd i’r gêm.

Does dim stadiwm arall yn Andorra, ond mae’r wlad wedi chwarae gemau ‘cartref’ rhyngwladol yn Barcelona, Sbaen yn y gorffennol.

Petai’r gêm yn gorfod cael ei symud i Barcelona fe allai hynny fod yn gyfleus i gefnogwyr Cymru, gan fod cannoedd ohonynt wedi bwriadu hedfan i’r ddinas Gatalanaidd cyn teithio draw i Andorra.

Fodd bynnag, fe fyddai’n golygu newid munud olaf yn y trefniadau i unrhyw gefnogwyr sydd wedi bwriadu teithio i Toulouse, y ddinas yn Ffrainc sydd hefyd ychydig oriau o daith o Andorra.

Mae Chris Coleman yn enwi’i garfan ar gyfer y gêm am 2.00yp heddiw.