Gôl gyntaf i Gomis yn erbyn Rotherham
Abertawe 1 – 0 Rotherham

Sgoriodd yr ymosodwr Bafetimbi Gomis ei gôl gyntaf i Abertawe wrth i’w dîm guro Rotherham yn weddol gyfforddus yng nghwpan y Gynghrair neithiwr.

Roedd rheolwr Abertawe, Garry Monk, wedi gwneud 10 newid i’r tîm a drechodd Burnley yn Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn gan roi gêm gyntaf i’r chwaraewyr newydd Federico Fernandez a Tom Carroll.

Bu’n rhaid oedi dechrau’r gêm am 10 munud oherwydd trafferthion ym mynedfeydd y maes, ond wnaeth hynny ddim effeithio ar y tîm cartref gan mai nhw oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf.

Doedd hi ddim yn syndod i Gomis roi ei dîm ar y blaen wedi 22 munud gan ergydio i gornel dde waelod y rhwyd ar ôl troi’n dda yn y cwrt.

Er i’r ymwelwyr roi rhywfaint o bwysau ar Abertawe o dafliadau a chiciau cornel, doedd hynny ddim yn ormod o broblem i’r tîm cartref ac roedd y fuddugoliaeth yn fwy cyfforddus nag y mae’r sgôr yn awgrymu.

Roedd Monk yn hapus gyda gôl gyntaf Gomis.

“Mae pob ymosodwr eisiau sgorio, ac mae hynny’n amlwg yn Bafe” meddai’r rheolwr.

“Bydd y gôl yn rhoi hyder iddo ond fe wnaeth ddiwrnod da o waith.”