Dwy gôl i Macheda yn ei ymddangosiad cyntaf
Port Vale 2 – 3 Caerdydd
Yn ei ymddangosiad cyntaf dros yr Adar Gleision neithiwr, fe greodd Federico Macheda argraff gyda dwy gôl yn erbyn Port Vale.
Roedd goliau Macheda, ac un gan Joe Ralls yn ddigon i Gaerdydd symud ymlaen i drydedd rownd Cwpan y Gynghrair.
Sgoriodd Ralls gydag ergyd wych o bellter wedi 26 munud, ond roedd y sgôr yn gyfartal wyth munud yn ddiweddarach diolch i ergyd well fyth gan Michael O’Connor.
Rhwydodd Macheda ei gyntaf ar yr awr o groesiad Declan John o’r chwith, cyn selio’r fuddugoliaeth wedi 79 munud.
Sgoriodd Michael Brown i’r tîm cartref yn yr amser am anafiadau ar ddiwedd y gêm, ond roedd hi’n rhy hwyr yn y dydd iddynt fachu gôl arall i ddod â’r sgôr yn gyfartal.
Ag yntau’n rhoi cyfle i nifer o chwaraewyr ymylol, roedd rheolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer yn hapus â’r canlyniad.
“Mae’r chwaraewyr wedi rhoi digon i mi feddwl amdano ac ro’n i’n hapus iawn efo’r hyn y gwelais” meddai Solskjaer.
“Roedd y pasio a’r symud gan y bois yn dangos y ffordd dwi’n hoffi chwarae pêl-droed.”
Awgrymodd y rheolwr bod cyfle gan Macheda i ddechrau yn erbyn Fulham ddydd Sadwrn.
“Dwi wastad wedi gwybod bod Federico yn sgoriwr naturiol ers i mi fod gydag o yn Manchester United. Mae ar flaen fy meddwl ar gyfer dydd Sadwrn. Bydd yn sicr o chwarae rhan, boed hynny’n ddechrau neu o’r fainc.”