Golwg360 sydd yn dychwelyd gydag eitem Tîm yr Wythnos, gan ddilyn hynt a helynt clybiau chwaraeon ar hyd a lled Cymru. Yr wythnos hon, Clwb Rhwyfo Caerdydd sydd o dan sylw.
Ar ôl haf hir o dorheulo ar y traeth – wel, trio beth bynnag – mae Tîm yr Wythnos yn dychwelyd ar gyfer tymor newydd llawn chwaraeon.
Dros y misoedd nesaf fe fyddwn ni eto’n mynd ar hyd a lled Cymru gan ddilyn hynt a helynt gwahanol dimau chwaraeon – rhai newydd, wrth gwrs, ond ambell hen ffrind hefyd.
Ac i ddechrau rydym ni’n teithio lawr i’r ddinas fawr ddrwg, wrth i Glwb Rhwyfo Caerdydd geisio cwblhau sialens arbennig.
Yfory, ar ddydd Mercher 27 Awst, fe fydd hyd at 30 o aelodau’r clwb yn cymryd rhan mewn her i geisio rhwyfo’r pellter rhwng Caerdydd a’r Alban.
Bydd aelodau’r clwb yn ceisio rhwyfo 637km rhyngddyn nhw mewn diwrnod, gyda phob un yn gwneud dwy shifft o awr yr un ac yn ceisio rhwyfo 12km yr awr yn ystod yr amser hwnnw.
“Roedden ni eisiau gosod targed, achos does dim pwynt gwneud e os nad oes targed gyda chi,” meddai Rosa Baik, un aelod sydd wedi bod yn rhwyfo gyda’r clwb ers blwyddyn a hanner.
“Gan fod Gemau’r Gymanwlad wedi digwydd yr haf yma, roedd e’n gwneud sens i rwyfo o Gymru i’r Alban!”
Dyma rai o aelodau’r clwb yn cyflwyno’u hunain a sôn am y sialens:
Codi arian i CRY
Felly os ydych chi yng nghanol Caerdydd yfory, ewch draw i Yr Ais ble bydd aelodau’r clwb yn rhwyfo’n galed ar bum peiriant rhwyfo yng nghanol siopwyr y dre.
Bwriad yr her yw codi arian tuag at y clwb, ond hefyd elusen CRY (Cardiac Risc in the Young) sydd yn gweithio i leihau’r marwolaethau o drafferthion cardiaidd ymysg pobl ifanc.
Fe gollodd y clwb rhwyfo cyn-aelod yn 2011 oherwydd clefyd y galon oedd heb ei ddarganfod, ac felly maen nhw’n awyddus i godi arian at achos a allai helpu pobl yn yr un sefyllfa.
“Y rheswm ni’n neud e yw nid yn unig i godi arian at y clwb ond yr elusen ni wedi dewis,” esboniodd Rosa Baik.
“Byddwn ni yng nghanol y cyhoedd a’r siopwyr, ac fe fydd modd i ni gysylltu â phawb.”
Cyfle i ymuno
Mae Clwb Rhwyfo Caerdydd yn ymarfer hyd at chwe diwrnod yr wythnos, yn y gampfa yn ogystal ag yn y Bae, yn yr un canolfan rwyfo a thîm Cymru a thîm rhwyfo Prifysgol Caerdydd.
Maen nhw’n cystadlu yn erbyn clybiau eraill ar hyd a lled Prydain, a bob blwyddyn mae’r clwb yn cynnal dwy ras 3.5km ‘Autumn and Spring Head’, ble mae gwahanol glybiau o Gymru a Lloegr yn cymryd rhan.
Llynedd ac eleni fe gynrychiolodd ddau o aelodau llawn y clwb, David George a Huw Carrick, Gymru yn y Regata ‘Home Countries’.
Os ydych chi’n awyddus i ymuno â’r clwb, mae ymarferion ar ddydd Mawrth a dydd Iau am 6:15yb cyn gwaith yn y bae ac ar yr afon Taf wrth Erddi Soffia, ac am 7yh hefyd gyda’r peiriannau rhwyfo.
Yn y cyfamser, pob lwc i’r criw fydd yn mynd am y sialens fory – cofiwch fynd i gefnogi!