Chris Coleman
Mae disgwyl y bydd yr ymosodwyr ifanc Tom Lawrence a George Williams yn cael eu henwi yng ngharfan Cymru yfory, ar ôl i’r ddau gael eu gadael allan o restr y tîm dan-21.

Cafodd y ddau eu gadael allan o garfan dan-21 Cymru a gafodd ei enwi heddiw ar gyfer gemau yn erbyn y Ffindir a Lithwania ar 5 a 9 Medi.

Mae hynny wedi cynyddu’r disgwyl fod Chris Coleman yn bwriadu’u cynnwys yng ngharfan y tîm hŷn, fydd yn cael ei enwi fory, ar gyfer y trip i Andorra.

Y gêm yn erbyn Andorra, sydd hefyd ar 9 Medi, fydd un gyntaf Cymru yng ngrŵp rhagbrofol Ewro 2016 sydd hefyd yn cynnwys Gwlad Belg, Bosnia-Herzegovina, Israel a Chiprys.

Osgoi gafael Lloegr?

Roedd Lawrence, sydd yn chwarae i Manchester United, a Williams o Fulham yn rhan o garfan ddiwethaf Coleman ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd, gyda Williams yn dod ar y cae ar gyfer ei gap cyntaf.

Fodd bynnag, roedd sôn yn ddiweddar fod Lloegr yn ystyried ceisio perswadio’r ddau i newid gwlad, gan nad yw’r un ohonyn nhw wedi chwarae gêm gystadleuol lawn dros Gymru eto.

Petai nhw’n chwarae unrhyw ran yn erbyn Andorra, fe fyddai’r posibiliad hwnnw’n diflannu.

Yn ddiweddar fe awgrymodd Coleman y byddai’n rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc osod eu marc yn yr ymgyrch hon, gan enwi Lawrence, 20, a Williams, 18, yn benodol.

Gallai’r ddau chwarae rhyw ran yn yr ymosod yn Andorra gan fod opsiynau eisoes yn brin oherwydd anafiadau.

Mae Cymru eisoes yn methu eu prif ymosodwr Sam Vokes, sydd yn debygol o fod allan nes diwedd y flwyddyn gydag anaf i’w ben-glin, tra bod amheuon hefyd dros ffitrwydd yr ymosodwr Hal Robson-Kanu a’r chwaraewr canol cae Joe Ledley ymysg eraill.

Dyfodol dan-21

Ymysg y chwaraewyr ifanc sydd ddim yn debygol o gael y cyfle gyda’r tîm cyntaf y tro hwn mae Declan John o Gaerdydd a Lloyd Isgrove o Southampton.

Mae’r ddau wedi bod yn rhan o’r garfan hŷn yn y gorffennol, ond maen nhw wedi’u cynnwys yn y tîm dan-21 eto’r tro hwn.

Dyw’r tîm ddim yn debygol o gyrraedd pencampwriaeth Ewrop 2015 bellach, felly mae’r rheolwr Geraint Williams wedi cynnwys nifer o chwaraewyr sydd yn 20 oed neu’n iau yn y gobaith o roi profiad rhyngwladol iddyn nhw ar gyfer yr ymgyrch nesaf.

Serch hynny, fe fyddan nhw’n gobeithio am ganlyniadau da yn erbyn y Ffindir a Lithwania er mwyn gwella’u detholiad ar gyfer y tro nesaf.