Ian Gough
Mae’r gwrandawiad i ddedfrydu chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Ian Gough, am ymosod ar ei gyn-gariad wedi cael ei ohirio tan ddydd Iau.

Roedd disgwyl i  Ian Gough gael ei ddedfrydu heddiw wedi i lys ei gael yn euog fis diwethaf o ymosod ar Sophia Cahill ar 5 Ionawr eleni.

Roedd Ian Gough wedi gwadu’r ymosodiad gan ddweud na fyddai wedi gallu ymosod ar Sophia Cahill oherwydd bod ganddo  anaf i’w goes ar y pryd. Cyhuddodd y fodel o regi arno ac ymosod ar ei gar.

Ond cafwyd ef yn euog yn Llys Ynadon Croydon yn Llundain.

Mae Ian Gough wedi ennill 64 o gapiau i dîm rygbi Cymru ac mae o ar hyn o bryd yn chwarae i dîm Dreigiau Casnewydd.