Aaron Ramsey oedd y seren i Arsenal wrth iddyn nhw ddod nôl i gipio pwynt yn Everton gyda dwy gôl hwyr.
Roedd ei dîm 2-0 ar ei hôl hi ar yr egwyl, ond ar ôl pwyso’n gryf yn yr ail hanner fe amserodd Ramsey ei rediad yn berffaith i rwydo croesiad gydag ond saith munud i fynd.
Roedd ganddo law yn y gôl a unionodd y sgôr yn y funud olaf hefyd, gan groesi’r bêl yr holl ffordd draw i Monreal a roddodd hi’n berffaith ar ben Giroud i gipio pwynt i’r Gunners.
Os oedd Ramsey’n anlwcus i fethu allan i James Chester fel ‘seren yr wythnos’ Cip ar y Cymry’r wythnos diwethaf, doedd dim peryg bod hynny’n digwydd eto.
Dim ond chwarter awr oedd wedi bod yn y gêm rhwng Hull a Stoke pan welodd Chester gerdyn coch am faglu Whelan ar ymyl y cwrt cosbi – llwyddodd ei dîm i gipio pwynt yn ei absenoldeb.
Yn wahanol i Chester, fe arhosodd Ashley Williams a Neil Taylor ar y cae am 90 munud i helpu Abertawe drechu Burnley 1-0, a chadw llechen lân yn y broses.
Roedd Paul Dummett hefyd yn rhan o amddiffyn Newcastle a gadwodd lechen lân mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Aston Villa.
Yn anffodus colli 2-0 oedd hanes Andy King gyda Chaerlŷr yn erbyn Chelsea, ac fe ddechreuodd Joe Allen yng nghanol cae Lerpwl hefyd wrth iddyn nhw golli 3-1 i Man City.
Fe fydd Chris Coleman hefyd yn pryderu ar ôl i Joe Ledley fethu gêm Crystal Palace gydag anaf, wrth iddo baratoi i enwi’i garfan fory ar gyfer gêm Andorra – daeth Jonny Williams ar am ugain munud i Palace fodd bynnag.
Fe ddechreuodd y tymor yn Sbaen i Gareth Bale nos Lun hefyd, gyda’r Cymro’n chwarae 90 munud wrth i Real Madrid drechu Cordoba 2-0.
Y Bencampwriaeth
Yn y Bencampwriaeth fe gafodd Chris Gunter a Jake Taylor gweir gyda Reading wrth i Nottingham Forest ennill 4-0 yn eu herbyn – roedd Hal Robson-Kanu’n absennol eto gydag anaf.
Colli o bedair oedd hanes George Williams gyda Fulham hefyd, wrth i Derby eu chwipio 5-1.
Fe ddychwelodd Andrew Crofts o anaf hir dymor i helpu Brighton i fuddugoliaeth o 2-1 dros Craig Davies a Bolton, tra bod Emyr Huws wedi chwarae 78 munud wrth i Wigan drechu Blackpool 1-0.
Roedd hi’n hafal 1-1 yn y gêm rhwng Huddersfield a Charlton, gyda Joel Lynch yn amddiffyn y tîm cartref a Simon Church yn dod ymlaen am Rhoys Wiggins i’r gwrthwynebwyr.
Fe chwaraeodd Dave Edwards a Lee Evans wth i Wolves drechu Caerdydd, tra bod Jermaine Easter a David Cotterill hefyd wedi ymddangos.
Yng Nghynghrair Un fe chwaraeodd Lewin Nyatanga, Gwion Edwards, Joe Walsh, Jake Cassidy, James Wilson, Tom Bradshaw a Josh Pritchard.
Seren yr wythnos: Aaron Ramsey – dechrau da i’r Cymro am yr ail dymor yn olynol. Jyst arhosa’n ffit plîs, Aaron!
Siom yr wythnos: James Chester – hero to zero, fel maen nhw’n dweud. Er, o leiaf y bydd yn ffres nawr ar gyfer y gêm ragbrofol.