Er ei fod yn siomedig ar ddiwedd ei dymor cyntaf wrth y llyw yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe, mae Steve Cooper yn llawn gobaith ar gyfer y dyfodol.

Fe fu’r rheolwr 40 oed o Bontypridd yn siarad â Golwg drannoeth y golled o 3-1 yn Brentford, oedd yn golygu bod yr Elyrch yn colli o 3-2 dros ddau gymal rownd gynderfynol y gemau ail gyfle am le yn Uwchgynghrair Lloegr.