Mae’r wythnos neu ddwy ddiwethaf wedi bod yn braf iawn i’r rheiny ohonon ni sy’n dymuno byw mewn gwlad gyfoes, gref, amrywiol a chynhwysol.

I’r rheiny ohonon ni sy’n ystyried ein Cymreictod yn rhan o fyd mawr, braf – sy’n dathlu’r pethau da sy’n clymu pobl at ei gilydd ond hefyd yn dathlu ac yn gwerthfawrogi’r hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol i’n gilydd – bu’r wythnos neu ddwy ddiwethaf yn hwb.