Ail flog Rhys Hartley sydd wedi bod yng Nghwpan y Byd …
Wedi ffleit dros nos, cyrhaeddom ni Salvador y bore cyn gêm Yr Almaen yn erbyn Portiwgal ac, yn ffodus, cawsom gyfle i ddod dros y gorlwyth o gyffro a fu yn ein nosweithiau cyntaf, heb sôn am ein diffyg cwsg.
Roeddem wedi clywed straeon erchyll am Salvador – cyffuriau, llofruddiaeth a gangiau – cyn cyrraedd. Erbyn y diwedd, sylweddolom fod pawb o bob dinas yn siarad lawr ar y dinasoedd eraill – roedd hi’n anodd ffeindio unrhyw un a fyddai’n siwtio swydd ar Fwrdd Twristaidd Brazil.
Roeddem dal yn eithaf naïf wrth gyrraedd Salvador a doedd y ffaith bod neb yn y maes awyr nac ar y bws wedi clywed am ein gwesty ddim yn argoeli’n dda. Ond, fel ym mhobman i ni fod, cafodd ein rhagfarn ei chwalu gan y croesom y cawsom gan y boi mawr y tu ôl i ddesg y gwesty.
Mae Salvador yn ddinas hynafol ar yr arfordir ac mae adeiladau trefedigol i’w ffeindio o gwmpas y lle. Roeddem newydd fethu gŵyl Sao Joao yn y ddinas ond roedd yr addurniadau lliwgar a’r bariau dros dro yn dal i lenwi’r prif sgwâr wrth i’r ŵyl bêl-droed gyrraedd y ddinas.
Dod ynghyd dan faner pêl-droed
Heblaw am gefnogwyr yr Almaen a Phortiwgal, roedd nifer fawr o Ffrancod yn y ddinas cyn eu hail gêm nhw yno. Ond, y prynhawn hwnnw, roedd Ffrainc yn wynebu Honduras ar y teledu. Bu mawr ddathlu ar y sgwâr a buom yn ddigon ffodus i ffeindio sedd mewn bar oedd yn gwerthu bwyd gyda theledu mewn golwg.
Cefnogwyr yr Almaen
Roedd Yr Almaenwyr a’r Ffrancod yn canu ac yn annog y lleill i ddechrau cân. Eto, fe lwyddodd pawb i ddod ynghyd dan faner pêl-droed, a ni yn teimlo’n rhan o’r peth.
Bu’n rhaid i ni ymuno yn y dathliadau, wrth gwrs, gydag ambell i ‘Caprinha’, sef coctel Brasiliaidd o rwm a leim ffresh. Dw i ddim yn meddwl y byddwn ni wedi dewis cerdded yn ôl i’r gwesty, a oedd ychydig tu fas i’r canol, heb ddewrder y ddiod.
Almaen v Portiwgal
Er gwaetha’r caprinhas cryf, roeddem yn teimlo’n iach ar fore’r gêm a gyda’r gic gyntaf am un o’r gloch, doedd dim amser am Benmaenmawr. Esboniodd y boi tu ôl y ddesg sut oedd cyrraedd y stadiwm ac ro’n ni’n hapus i glywed fod modd cerdded yno mewn deng munud – newid mawr i’r drafnidiaeth gyhoeddus erchyll i ni ddioddef yn barod.
Y dorf - a'r brotest
Wrth gyrraedd y stadiwm gwelsom beth oedd yn edrych fel protest ac roedd Dad wrth ei fodd yn cael bod yng nghanol ryw ddireidi. Ond mawr oedd ei siom achos dim ond protest Cristnogol gwrth-erthyliad oedd hi ac fe benderfynom ymuno â’r Almaenwyr a oedd yn yfed a chanu wrth yr archfarchnad.
Hwn oedd y gêm fwyaf yr oedd gennym docynnau iddi ac roeddem yn edrych ymlaen yn arw at weld Ronaldo i Bortiwgal a sêr Yr Almaen a’u pasio slic.
Dw i’n cofio gweld Schweinsteiger yn chwalu Cymru o ganol y cae rhai blynyddoedd yn ôl ac mae carfan Yr Almaen heddiw yn dal i ddibynnu ar ganol y cae i redeg y sioe.
Pepe’n penio Müller cyn gadael am y gawod
O’r cychwyn cynta’, roedd Yr Almaen yn dominyddu yng nghanol y cae ac roedd hi’n bleser cael gweld Müller yn ffeindio lle tu ôl yr amddiffyn, er bod dau neu dri ohonyn nhw’n ceisio’i ddilyn. Daeth y gôl gyntaf trwy gic o’r smotyn ac roedd hi’n ddau i ddim cyn i Pepe gael ei hel o’r maes am benio Müller.
Doedd dim ffordd yn ôl i Bortiwgal, gyda Ronaldo yn actio fel crwt bach yn gwrthod rhedeg a chwyno ar bob cyfle. Fe gafodd e gwpwl o gyfleoedd ond Müller gipiodd y penawdau am sgorio hat-tric gynta’r twrnament. Tair gôl syml a oedd yn dangos cryfder Yr Almaen i greu’r cyfleoedd iddo fe.
Gorffennodd hi’n 4-0 i’r Almaen ac roeddem wir yn teimlo ein bod wedi bod yn dyst i un o gemau gorau’r twrnament. Fe gerddom nôl i’r ddinas gyda’r Almaenwyr yn dathlu’n fwy na’r noson gynt a dim sôn o’r Portiwgaliaid.
Wrth gwrs, bu’n rhaid i ni wylio’r gêm nesa’ ar y teledu – Iran yn erbyn Nigeria – sy’n sicr yn gorfod ennill cystadleuaeth gêm waetha’r twrnament. Ond, i ni, roeddem yn medru teimlo’n fwy breintiedig fyth o fod wedi gweld y grasfa.
Gwlad Belg v Algeria
Roedd ein ffleit i Belo Horizonte am chwech y bore wedyn ond, er mwyn arbed arian, penderfynom ei fod yn syniad da i gysgu yn y maes awyr am gwpwl o oriau ac yna ar y ffleit. I fod yn deg, doedd dim modd osgoi blinder gan fod tocynnau ‘da ni i gêm Gwlad Belg yn erbyn Algeria yn Belo am un y prynhawn hwnnw.
Cyrhaeddom Belo mewn da o bryd a bu’n rhaid i Dad ddefnyddio ei Lefel-O Ffrangeg a Sbaeneg er mwyn cael bws i’r ddinas. Gyda dim cwsg, bu bron i’w ben ffrwydro dwi’n meddwl, ond chwarae teg fe gyrhaeddom ni’r canol yn ddigon sydyn.
Roeddem yn aros gyda mab i un o ffrindiau Dad oedd yn byw yn Belo Horizonte gyda’i wraig. Cawsom groeso cynnes iawn gan y boi o Gaerdydd yn wreiddiol, gyda brecwast mawr yn ein disgwyl. Doedd braidd dim amser gyda ni i gawodi a newid cyn bu’n rhaid gadael y fflat ac ymlwybro tua’r grownd.
Yn annhebyg i’r meysydd eraill, roedd dal teimlad hen ffasiwn ar yr Estadio Mineirao gyda’r pileri concrit yn edrych fel wal allanol eisteddle gogledd Stadiwm y Mileniwm.
Yr unig broblem gyda hwn oedd ei fod ddim wedi’i adeiladu i brosesu chwe deg mil o gefnogwyr a oedd yn gorfod mynd trwy rigmarol diogelwch fel maes awyr. Felly, bu’n rhaid i ni giwio am awr a hanner yn yr haul amser cinio. Roedd hi i fod yn aeaf yn hemisffer y de ond roedd hi lot yn dwymach nag unrhyw beth y’n ni’n ei gael yn yr haf.
Tu fewn i’r grownd roedd yr awyrgylch yn wych. Ro’n ni jyst o flaen cefnogwyr Gwlad Belg a oedd yn llawer mwy swnllyd na dwi’n eu cofio mis Hydref d’wetha ym Mrwsel. Ro’n i wedi synnu, hefyd, gyda chymaint o Algeriaid oedd yna. Roedd sawl wedi’i dotio o gwmpas y lle ond roedd bloc enfawr ohonyn nhw yn daranllyd ochr arall y grownd. Hefyd, roedd y Brasiliaid mewn hwyliau da am eu bod nhw yn chwarae yn hwyrach y prynhawn hwnnw.
Yr Algeriaid oedd fwya’ swnllyd yn ystod yr hanner cyntaf, gan fynd ar y blaen trwy gic o’r smotyn. Roedd y Belgiaid i weld mewn sioc, fel roeddem ni i gyd wrth wylio tîm anenwog Algeria yn edrych yn gyfforddus yn erbyn sêr Gwlad Belg.
Y Belgiaid dan eu sang ar ôl sgorio
Dim ond ar ôl iddyn nhw wneud y sgôr yn hafal y ffeindiodd y Belgiaid eu lleisiau eto ond roedd hi’n ddwywaith cymaint ag oedd hi cyn y gêm. Mae’r trosiad ‘12fed dyn’ yn addas iawn i ddisgrifio effaith y cefnogwyr wrth annog y tîm am weddill y gêm, tîm a oedd yn awr yn chwarae gyda hyder ac yn gofyn i’r dorf i barhau eu cefnogaeth galonogol.
Daeth y gôl gyntaf drwy Marouane Fellaini ac roedd cyflwyno fe i’r gêm yn hanfodol i siawns Gwlad Belg wrth iddo fod wrth ganol bob ymosodiad – yn ôl at ei orau fel dy’n ni’n ei gofio o’i ddyddiau yn Everton.
Gyda deng munud yn weddill daeth y gôl fuddugol o groesiad gan Eden Hazard, un arall o’r Uwch Gynghrair. Fel cefnogwr Cymru, roedd hi’n peri gofid i wybod sut yr oedd y tîm yn gallu chwarae mor wych am ugain munud a newid y gêm yn gyfan gwbl.
Daeth ryw deimlad o ryddhad i gefnogwyr Gwlad Belg gyda’r ail gôl ac roedden nhw’n dathlu ar ben ei seddi a waliau’r eisteddle tan cael eu gorfodi i adael y grownd.
Gwylio Brasil
Roedd hi’n rhuthr mawr yn ôl at ganol y ddinas er mwyn ffeindio rhywle i wylio gêm Brasil. Roedd gwraig ein gwesteiwr gyda’i theulu mewn bar cymdogaeth ochr draw’r ddinas ond doedd braidd dim tacsis i’w cael gan fod Brazil yn chwarae. Roedd yr un i ni ffeindio yn gwylio’r gêm ar ei sgrin SatNav!
Fe gwrddom â’n ffrind Huw, un o ffyddloniaid Cymru oddi cartref, a’i fêt ar ôl y gêm a daethon nhw gyda ni i’r bar. Bu’n rhaid i ni eistedd ar fwrdd mawr reit o flaen y teledu fel rhyw fath o westeion arbennig.
Cawsom groeso cynnes iawn gyda’n gwydrau yn cael eu llenwi â chwrw cyn gynted ag oedd y gwydr yn wag, yn ogystal â’r platiau o gig a llysiau traddodiadol i lenwi’n stumogau.
Doedd gêm Brazil ddim cweit beth oedd y brodorion yn ei ddisgwyl, gan orffen yn ddi-sgôr, diolch i berfformiad golgeidwad Mexico.
Ond doedd hynny ddim yn ddigon i sbwylio hwyl y teulu. Daeth mwy a mwy o gwrw a bwyd cyn a thrwy gydol y gêm nesa ac fe gawsom hyd yn oed glymu ein fflagiau o’r ffenestri.
Roedd hi’n brofiad gwirioneddol Brasiliaidd. Bu hyd yn oed gofyn i ni ganu caneuon The Beatles i ddau hen foi oedd yn hoff ohonynt. Wrth gwrs, ar ôl dechrau un, roedd yn rhaid i ni geisio cofio holl gatalog y band!
Gorffennom y noson mewn bar byrgyrs yn agos at y fflat gyda hyd yn oed mwy o gwrw. Roedd hi’n tynnu tuag oriau man y bore ac roedd rhan fwyaf o lefydd cyfagos yn cau.
Er mawr syndod i ni, daeth fan heddlu wrth ochr y stryd a daeth heddwas i sefyll tu ôl i’n bwrdd ni gyda’i law ar ei ddryll. Ro’n ni i gyd yn teimlo dan fygythiad ond roedd y brodorion wedi hen arfer gan ddweud yn blaen ‘dyna sut mae hi yma’.
Rhywsut, fe lwyddon ni i weld oriau mân y bore cyn mynd i’r gwely ar gefn noson o ddiffyg cwsg. Roedd y dydd i gyd wedi hedfan heibio ar adrenalin cwpan y byd a chwrw rhad. Diolch byth, roedd trwmgwsg yn disgwyl cyn ein ffleit y prynhawn wedyn i Brasilia.
Gallwch ddarllen blog cyntaf Rhys Hartley o Frasil yma.