Gylfi Sigurdsson
Mae Cadeirydd yr Elyrch Huw Jenkins wedi cadarnhau y gallai cyn-chwaraewr canol cae Abertawe Gylfi Sigurdsson ddychwelyd i’r Liberty yn rhan o ddêl a allai weld amddiffynnwr Abertawe Ben Davies yn mynd i Tottenham Hotspur.
Hefyd mae adroddiadau bod Lerpwl yn ystyried prynu Ben Davies a’r ymosodwr Wilfried Bony. Ond yn ôl Jenkins nid yw Lerpwl wedi cysylltu â’r clwb ynglŷn â’r ddau chwaraewr.
Disgleiriodd Ben Davies ar gae’r Liberty yn dilyn anaf i’w gydchwaraewr rhyngwladol Neil Taylor y tymor diwethaf.
Mae wedi torri trwodd yn 19 oed a sefydlu ei hun yn ddewis cyntaf i’r clwb yn safle’r amddiffynnwr chwith.
Fe wnaeth ei berfformiadau ar y cae greu argraff ar reolwr Cymru Chris Coleman a roddodd gyfle i’r dyn ifanc o Gastell Nedd chwarae ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn Yr Alban yn 2012.
Mae asiant Wilfried Bony wedi dweud bod yr ymosodwr ond yn fodlon gadael Abertawe am glwb sydd yn safle chwech uchaf Uwch Gynghrair Lloegr.
Bony oedd prif sgoriwr Abertawe’r tymor diwetha’ gyda 25 gôl.
Mae Arsenal, Lerpwl, Everton a Borussia Dortmund ymhlith y clybiau sydd wedi cael eu cysylltu efo Bony.