Fe fydd y Gweilch a’r Scarlets yn dechrau eu tymor yng nghynghrair y Pro12 gartref y tymor hwn, ar ôl i drefn y gemau gael eu rhyddhau heddiw.
Bydd y Gweilch yn herio Treviso yn Stadiwm Liberty ar benwythnos y 5-7 Medi, gyda’r Scarlets yn herio Ulster yn Llanelli.
Mae’r Gleision yn teithio i Zebre ar gyfer eu gêm agoriadol, tra bod y Dreigiau yn chwarae i ffwrdd yn Connacht.
Bydd y ddarbi Gymreig gyntaf ar ail benwythnos y tymor, wrth i’r Dreigiau herio’r Gweilch yn Rodney Parade.
Yn y gemau fydd yn cael eu chwarae ar Ŵyl San Steffan fe fydd y pedwar rhanbarth yn herio’i gilydd, gyda’r Dreigiau ymweld â Chaerdydd, a’r Gweilch a’r Scarlets yn herio’i gilydd yn Stadiwm Liberty.
Bydd y timau wedyn yn chwarae’r un gwrthwynebwyr ar y penwythnos canlynol yn y flwyddyn newydd.
Mae’r Gleision yn chwarae’r Gweilch a’r Scarlets yn chwarae’r Dreigiau ar yr un penwythnos ar ddiwedd mis Ebrill hefyd, gan olygu’r posibiliad y gallen nhw gynnal ‘Dydd y Farn’ arall yn Stadiwm y Mileniwm.
Y Gleision yw’r unig dîm fydd yn gorffen eu tymor gartref wrth iddyn nhw herio Zebre – tîm a lwyddodd i’w trechu ddwywaith y llynedd.
Fe fydd y Scarlets yn teithio i Treviso ar gyfer eu gêm olaf, y Gweilch yn herio Connacht a’r Dreigiau yn wynebu Munster.
Mae cynghrair y Pro12 wedi’i noddi gan Guinness eleni, wedi i’r cytundeb gyda RaboDirect ddod i ben.
Gallwch weld trefn y gemau’n llawn ar wefan y gynghrair.