Christian Malcolm
Mae’n debyg y bydd y rhedwr o Gasnewydd Christian Malcolm yn gwneud ei ymddangosiad olaf i Gymru ddydd Mawrth nesaf.
Ni chafodd Malcolm ei ddewis ar gyfer Gemau’r Gymanwlad ond bydd yn cystadlu yn ras gyfnewid 4x100m y dynion yn Athletau Rhyngwladol Cymru yng Nghaerdydd ar 15 Gorffennaf.
Methodd Malcolm i gystadlu’r tymor diwethaf oherwydd anafiadau gan golli Pencampwriaethau’r Byd ym Moscow.
Mae Malcolm wedi cystadlu dros Gymru ym mhedwar Gemau Gymanwlad gan gipio’r fedal arian yn y ras 200m yn Kuala Lumpur yn 1998, ac efydd yn yr un digwyddiad yn Delhi bedair blynedd yn ôl.
Tîm Cymru
Dynion – Dewi Hammond; Sam Gordon; David Guest; Elliot Slade; Chris Gowell; Adam Bitchell; Paul Bennett; Paul Walker; Ryan Spencer-Jones; Osian Jones; Lee Doran; Brett Morse; tîm 4x100m – Dewi Hammond, Sam Gordon, Christian Malcolm, Gareth Hopkins, Lemarl Frecklton; tîm 4x400m – Paul Bennett, Gareth Warburton, Adebowale Ademuyemo, Joe Thomas, Rhys Williams.
Menywod – Rachel Johncock; Rebecca Williams; Seren Bundy-Davies; Jade Williams; Rhianwedd Price; Elinor Kirk; Sally Peake; Carys Parry; tîm 4x100m – Rachel Johncock, Hannah Thomas, Mica Moore, Hannah Brier, Lucy Evans; tîm 4x400m – Laura Maddox, Rebecca Williams, Seren-Bundy Davies, Megan Rogers.