Sergio Romero, golwr yr Ariannin
Ar ôl canlyniad hollol syfrdanol a llond trol o goliau nos Fawrth, fe ddylen ni fod wedi rhagweld na fyddai’r ail gêm gynderfynol rhwng Yr Iseldiroedd a’r Ariannin cystal.
Yn wir, chafwyd yr un gôl o gwbl mewn 120 munud o chwarae, wrth i’r ddau dîm geisio sicrhau nad oedden nhw’n cael eu dal allan yn amddiffynnol gan ymosodwyr peryglus eu gwrthwynebwyr.
Roedd rhaid penderfynu canlyniad arall o giciau o’r smotyn – a golwr yr Ariannin Sergio Romero oedd yr arwr wrth arbed dwy.
Cyn y gêm roedd llawer o sylw’n cael ei roi i’r frwydr rhwng yr Archentwr Lionel Messi ag asgellwr yr Iseldiroedd Arjen Robben, dwy seren eu timau.
Ond gemau digon tawel gafodd y ddau, gydag amddiffyn cryf Javier Mascherano ar un pen a Ron Vlaar y pen arall yn eu cadw i ffwrdd ar fwy nag un achlysur.
Yr Iseldiroedd oedd yn rheoli’r meddiant am y rhan fwyaf o’r gêm er na chynigion nhw fawr o fygythiad gwirioneddol i gôl Sergio Romero, a Robin Van Persie eto’n ddistaw.
Roedd hynny’n gadael i’r Ariannin geisio manteisio ar eu hanner-cyfleoedd, gyda Messi, Ezequiel Garay a Gonzalo Higuain yn mynd agosaf.
Wrth i’r cloc gyrraedd y 90 munud cafodd Robben gyfle euraidd i gipio’r fuddugoliaeth, ond oedodd cyn saethu ac fe lwyddodd Mascherano i daflu’i hun o flaen yr ergyd.
Honno oedd cyfle gorau’r Iseldiroedd, gyda’r Ariannin yn cael y gorau o gyfleoedd yr amser ychwanegol ond yr eilyddion Rodrigo Palacio a Maxi Rodriguez yn euog o fethu.
Ciciau o’r smotyn felly, ar ôl iddi orffen yn ddi-sgôr – ond doedd yr Iseldiroedd methu ailadrodd eu tric o ddod a Tim Krul i’r cae eto gan eu bod eisoes wedi eilyddio dair gwaith.
Ac fe dalon nhw’r pris am hynny, wrth i Jasper Cillessen fethu ag arbed yr un o bedwar cic yr Ariannin o’r smotyn.
Methodd Vlaar a Wesley Sneijder gyda’u hymdrechion hwy, ac felly’r Ariannin fydd yn wynebu’r Almaenwyr yn ffeinal Cwpan y Byd, tra bydd yr Iseldiroedd yn chwarae Brasil yn y gêm i benderfynu’r trydydd safle.
Gemau nesaf
Yr Iseldiroedd v Brasil (dydd Sadwrn, 9.00yh)
Yr Almaen v Yr Ariannin (dydd Sul, 8.00yh)
Pigion eraill
Tybed os cafodd tynged yr Iseldiroedd ei benderfynu o flaen llaw? Doedd hi’n sicr ddim yn edrych fel petai cefnogaeth y band pop One Direction wedi bod o unrhyw help beth bynnag.
Mae’n ymddangos fod y pum aelod wedi cyhoeddi llun o’u hunain mewn crysau’r Iseldiroedd cyn y gêm – ar ôl gwneud yr un peth mewn crysau Brasil cyn gêm y noson gynt.
I rwbio rhagor o halen yn y briw i Frasil, mae’n ymddangos fod amddiffynnwr yr Almaen Mats Hummels wedi cyfaddef fod ei dîm wedi dangos trugaredd tuag at eu gwrthwynebwyr nos Fawrth.
A hwythau eisoes 5-0 ar y blaen yn erbyn Brasil, fe benderfynodd yr Almaenwyr yn yr ystafell newid ar yr egwyl nad oedden nhw am gywilyddio’r tîm cartref rhagor.
Mae’n bosib fod yr eilydd Andre Schurrle wedi taro i’r tŷ bach ar y pwynt hwn a methu’r sgwrs, gan ei fod o wedi dod i’r maes yn yr ail hanner a sgorio dwy arall beth bynnag!