Swydd Surrey oedd yn fuddugol o naw wiced ar ddiwrnod ola’r ornest yn erbyn Morgannwg ym Mae Colwyn heddiw.

Wedi i Forgannwg gael eu bowlio allan am 398 yn yr ail fatiad y prynhawn ma, dim ond 40 o rediadau oedd eu hangen ar yr ymwelwyr i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Enillodd Morgannwg y dafl a phenderfynu batio’n gyntaf, ac fe lwyddon nhw i sgorio 232 i gyd allan, wrth i Jim Allenby daro 69.

Chris Tremlett (5-60) a Tom Curran (4-88) rannodd fwyafrif helaeth y wicedi batiad cyntaf i Swydd Surrey cyn i’r ymwelwyr ymateb gyda chyfanswm o 589-8 cyn cau’r batiad gyda blaenoriaeth o 357.

Sgoriodd pump o fatwyr Swydd Surrey hanner cant neu fwy yn y batiad wrth iddyn nhw roi pwysau ar y Cymry.

Tarodd Zafar Ansari 112 yn ystod partneriaeth agoriadol o 182 gyda Rory Burns (97), cyn i Arun Harinath (60), Jason Roy, y capten Gary Wilson (97*) a Chris Tremlett (56) greu embaras i Forgannwg.

Roedd talcen caled yn wynebu Morgannwg yn yr ail fatiad, ond fe ddechreuon nhw’n gadarn wrth i Jacques Rudolph a Will Bragg daro 73 yr un ac fe gawson nhw eu cefnogi’n nes ymlaen yn y batiad gan 83* gan Chris Cooke.

Ond ofer oedd eu hymdrechion wrth i Forgannwg lwyddo i osod nod o 40 yn unig am y fuddugoliaeth wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 398.

Fe gyrhaeddodd yr ymwelwyr y nod wedi colli un wiced yn unig.