Owen Williams
Mae Owen Williams wedi cael ei symud i Ysbyty Rookwood yng Nghaerdydd yr wythnos hon wrth iddo barhau i geisio gwella o anaf difrifol i’w wddf a’i gefn.

Fe gadarnhaodd rhanbarth y Gleision heddiw fod y chwaraewr wedi cael ei symud o Ysbyty Athrofaol Cymru i Landaf, ble bydd yn parhau i gael triniaeth.

Mae Ysbyty Rookwood yn arbenigo mewn adferiad iechyd, ac mae’n un o’r ddeuddeg canolfan adferiad asgwrn cefn ym Mhrydain.

Cafodd Williams anaf difrifol i’w wddf a’i gefn wrth chwarae dros y Gleision mewn twrnament deg bob ochr yn Singapore fis diwethaf.

Ers hynny mae dymuniadau gorau iddo wedi cael eu hanfon o bob cwr o’r byd rygbi, gyda’r Gleision ac eraill yn defnyddio’r hashnod #StayStrongForOws ar Twitter.

Dyw’r rhanbarth heb gadarnhau union ddifrifoldeb yr anaf eto, fodd bynnag, dim ond ei fod wedi anafu fertebra yn ei wddf a madruddyn ei gefn.

Fe ddiolchodd y Gleision eto ar ran teulu Owen Williams am y gefnogaeth a’r preifatrwydd sydd wedi’i roi iddynt dros yr wythnosau diwethaf, gan ddweud y byddan nhw’n parhau i roi diweddariad pan fo’n briodol.